Mae Meilir wedi rhyddhau ei albwm newydd, In Tune, ers dydd Gwener diwethaf, 4 Rhagfyr.
Dyma albwm llawn unigol cyntaf y cerddor amryddawn ddaeth i’r amlwg yn wreiddiol gyda’r grŵp o’r Gogledd Ddwyrain, Manchuko. Roedd eisoes wedi rhyddhau’r sengl ‘Ydy’r Ffordd yn Glir’ ar ei safle Bandcamp ddiwedd mis Medi, cyn ei ail-ryddhau’n swyddogol ym mis Tachwedd.
Mae’r albwm yn dilyn yr EPs llwyddiannus ‘Bydd Wych’ (2009) a ‘Cellar Songs’ (2014), ac mae ar gael yn ddigidol i ddechrau ar y llwyfannau arferol gan Label Recordiau Gwdihw, ond bydd hefyd yn cael ei ryddhau ar ffurf CD a feinyl ym mis Mawrth 2021.
Cynhyrchwyd yr albwm gan Charlie Francis yn ei Stiwdio Loft yng Nghaerdydd, ac yn ôl y label mae’n daith gerddorol gyffrous i’r gwrandäwr.
Personol
Mae galw i chwarae ‘In Tune’ sawl gwaith er mwyn gallu gwir ymdreiddio a gallu mynd o dan groen cyfansoddiadau difyr Meilir.
“Mae fy recordiadau yn bersonol iawn i mi, a dwi’n meddwl mai dyna pam maen nhw’n cymryd cyn hired i mi eu gorffen” meddai Meilir.
“Mae yna themâu ar yr albwm ‘In Tune’ sy’n dilyn rhai o fy recordiadau blaenorol: mewn ffordd, mae’r gerddoriaeth dwi’n ei ysgrifennu fel soundtrack i fy mywyd
“Mae rhai demos a’r syniadau tua wyth mlwydd oed: mae wedi bod yn dda i gymryd ychydig yn hirach i ysgrifennu a recordio. Drwy gymryd mwy o amser i recordio nag rydw i wedi yn y gorffennol, mae yna fwy o ddyfnder a phersonoliaeth i’r gerddoriaeth.
“Fydd yn braf cael rhannu’r caneuon yma gyda’r byd o’r diwedd” ychwanega’r cerddor.
Ag yntau’n llwyddo i gyfuno cyfansoddi medrus gyda dull ysgrifennu dewr a synnwyr cerddorol eclectig, mae hanes taith gerddorol Meilir yn un ddiddorol.
Cafodd lwyddiant i ddechrau fel pianydd a cherddor clasurol, cyn mynd i deimlo’n rhwystredig gyda chyfyngiadau artistig y byd clasurol. Ffurfiodd y grŵp Manchuko yn wreiddiol, cyn mynd ati i ddechrau creu cerddoriaeth ei hun.
Canlyniad hyn oedd cyfres o senglau a’r EPs llwyddiannus, ac wrth gwrs yr albwm newydd.