Mae’r cerddor electronig, Carw, wedi rhyddhau ei albwm newydd ddydd Gwener diwethaf, 21 Awst.
‘Maske’ ydy enw ail albwm prosiect cerddorol unigol Owain Griffiths, ac mae’r albwm wedi’i ryddhau’n ddigidol gan label Recordiau BLINC.
Rhyddhawyd y trac ‘Amrant’ fel tamaid i aros pryd gan Carw ar 31 Gorffennaf, ac roedd cyfle cyntaf i weld y fideo ar gyfer y trac yma ar wefan Y Selar.
I gyd-fynd â rhyddhau’r albwm llawn, mae fideo ar gyfer y trac ‘AM’ wedi’i gyhoeddi hefyd – gallwch wylio hwn isod.
Ymateb i amgylchedd newydd
Mae ‘Maske’ yn hannu o’r newid diweddar yn amgylchedd Owain, sydd wedi symud o Gymru i’r Almaen, ac mae’r casgliad yn nodi gwyriad bychan oddi wrth ei waith blaenorol.
Ceir ar yr albwm offerynnol 7-trac hwn guriadau cadarnach a synau synth tywyllach, gan ddod â naws Depeche Mode a chyffyrddiadau o weithiau o’r 90au cynnar gan Orbital ac Aphex Twin.
Mae ‘Maske’ yn deillio o emosiynau gadael gwlad gyfarwydd lle’r oedd Owain wedi gwneud llawer o gysylltiadau, a cherfio bywyd newydd iddo’i hun mewn gwlad ble nad oedd yn adnabod neb. Gyda theitl yr albwm – y gair Almaeneg am mwgwd – mae Owain yn ymateb i’r teimlad o fod yn anweledig, anhysbys.
Mae’n dwyn i gof blwyddyn gyntaf ei fywyd yn yr Almaen, yn camgymryd wynebau ar strydoedd Leipzig am wynebau cyfarwydd gartref, a chydnabyddiaethau heb eu dychwelyd yn arwain at y teimlad cynhenid ei fod wedi’i guddio y tu ôl i guddwisg, neu fwgwd.
Mae pob trac oddi ar yr albwm yn nodi agweddau gwahanol o’r emosiwn hwnnw.
Gweledigaeth Carw
Daw Carw o fyd cerddoriaeth, celf a llenyddiaeth gyda phrosiect â’i ganolbwynt yn bendant ac yn hunan-ysgogedig.
Gweledigaeth greadigol Carw yw dewis a dethol dylanwad natur yn dilyn ei fagwraeth yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru, yn cyfuno anadlau dyfnion o aer glân gyda llwch bwrlwm y ddinas.
Mae Owain Griffiths yn gyn-aelod o’r grŵp Violas, ac ers dechrau perfformio dan yr enw Carw mae hefyd wedi perfformio fel rhan o Cotton Wolf, Eugene Capper & Rhodri Brooks, Winter Villains, a’r triawd synth electro, Hlemma.
Dyma fideo ‘AM’: