Mae Papur Wal wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘Piper Malibu’ heddiw, 13 Mawrth.
Dyma’r trac diweddaraf i ymddangos gan y triawd sy’n dod yn wreiddiol o’r Gogledd ond sydd bellach wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd, a Recordiau Libertino fydd yn ei rhyddhau ar y llwyfannau digidol arferol.
Dyma fydd yr ail sengl i roi blas o’u halbwm cyntaf sydd ar y gweill, ac unwaith eto maent wedi gweithio gyda’r cynhyrchydd Kris Jenkins, sy’n gyfarwydd am ei waith gyda Cate Le Bon, Super Furry Animals a Gruff Rhys.
Rhyddhawyd y gyntaf, ‘Meddwl Am Hi’, ym mis Chwefror gyda fideo i gyd-fynd.
Stori drist yn ysbrydoli sengl
Yn ôl y label mae Papur Wal yn arddangos eu gallu i gyfuno’r dwys a’r emosiynol gydag alawon pop bytholwyrdd. Ar y trac newydd mae’r grŵp yn plethu harmonïau arfordir gorllewinol Americanaidd ynghyd ag awyrgylch slacyr amharchus o cŵl gydag eu hofnau o hedfan a marwolaeth.
Fel gyda’u sengl boblogaidd ‘Yn y Weriniaeth Siec’ a ryddhawyd llynedd, mae’r grŵp yn dwyn dylanwad o fyd chwaraeon ar gyfer eu sengl newydd ac o un stori drist benodol.
“‘Piper Malibu yw enw’r awyren y bu farw’r pêl droediwr Emiliano Sala ynddo” eglura gitarydd a phrif ganwr Papur Wal, Ianto Gruffydd.
“Cafodd y gân ei hysgrifennu’n wreiddiol am ddatblygu ofn o fflio mewn awyren a phethau eraill wrth i ti dyfu’n hŷn. Yn dilyn y newyddion am Sala, gorffennais y gân gan ychwanegu’r cysyniad o’r math o gymdeithas adolygiadol rydym yn byw ynddo, lle tydy pobl ond yn talu sylw i ti ar ôl i ti farw, neu os wyt ti’n enwog ayyb.”
Mae modd gwrando ar y gân ar hyn o bryd ar wefan gylchgrawn cerddoriaeth ‘God is the TV’, a bydd fideo’n cael ei gyhoeddi i gyd-fynd â’r sengl ar 13 Mawrth.
Roedd rhaglen ddogfen arbennig am y grŵp gan gyfres Lŵp ar S4C neithiwr, 12 Mawrth.
Dyma fideo ar gyfer y sengl newydd sydd ar sianel YouTube Lŵp:
Llun: Papur Wal yng Ngwobrau’r Selar eleni (ffotoNant / Y Selar)