Avanc ydy enw band gwerin ieuenctid cenedlaethol Cymru, ac maen nhw wedi rhyddhau eu sengl gyntaf ddydd Mercher diwethaf, 23 Medi.
‘March Glas’ ydy enw’r sengl ac mae’n cael ei rhyddhau ar label UDISHIDO.
Mae Avanc yn un o brosiectau TRAC Cymru ac yn cael ei ariannu gan y Coilwinston Trust a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Ar ôl meithrin a datblygu eu sgiliau dros gyfnod o flynyddoedd mewn cyrsiau TRAC fel Gwerin Gwallgo, mae pymtheg o gerddorion gwerin ifanc mwyaf addawol Cymru wedi dod ynghyd i ffurfio’r grŵp sy’n addo cynnau tân dan y sin gerddoriaeth Gymreig.
Bu’r criw yn brysur yn meithrin eu creff mewn cyfres o ymarferion dwys yng ngwersyll Glanllyn dan oruchwyliuaeth mentoriaid fel Gwen Maìri, Sam Humphreys a Patrick Rimes. Bellach maent wedi siapio sain sy’n ddychrynllyd o egnïol ac eisoes wedi ffrwydro ar lwyfannau yng Nghymru a thramor.
A hwythau, fel pawb arall, wedi profi’r siom o ddiffyg gigs byw eleni, mae’r criw wedi mentro i’r stiwdio a rhoi eu holl egni mewn i recordio. Canlyniad cyntaf ffrwyth eu llafur ydy’r sengl gyntaf, ‘March Glas’.
Mwy i ddod
Y newyddion da pellach ydy y gallwn ni ddisgwyl llond trol o gynnyrch pellach yn cael ei ryddhau ganddynt dros y misoedd nesaf, yn ogystal â deunydd newydd sydd wedi bod yn bragu yn ystod y cyfnod clo.
Mae ‘March Glas’ yn seiliedig ar rai o draddodiadau mwya’ hynafol Cymru, ond hefyd yn dwyn dylanwad mawr o’u profiadau’n perfformio ar y cyfandir, yn enwedig felly yng Ngŵyl Ryngwladol Geltaidd Am Oriant yn Llydaw.
Gellir clywed llais Kate Davies yn canu’r gân wreiddiol ar un o recordiau cynnar Roy Saer yn archif sain yr Amgueddfa yn Sain Ffagan.
Gyda’r fersiwn newydd, mae Avanc yn cyfleu naws ‘Fest-Noz’ Llydaweg ar yr hen glasur, drwy ei asio gyda dwy alaw ddawns draddodiadol o Lydaw.
Dyma fideo ‘March Glas’ i gyd-fynd â’r sengl: