Rhyddhau sengl gyntaf Lisa Angharad

Mae Lisa Angharad wedi rhyddhau ei sengl unigol gyntaf.

‘Aros’ ydy enw’r trac newydd ac mae’n cael ei ryddhau ar label Recordiau Côsh.

Mae Lisa Angharad yn enw ac wyneb cyfarwydd i lawer  fel cyflwynwraig hoffus, ond mae’n cael ei hadnabod lawn cystal, os nad yn well, am ei dawn cerddorol, ar ôl bod yn perfformio gyda’i chwiorydd yn y grŵp lleisiol Sorela ers blynyddoedd bellach.

Er hynny, mae cyfnod y cloi mawr wedi rhoi cyfle iddi ganolbwyntio ar ei chariad cyntaf, sef ysgrifennu a pherfformio cerddoriaeth.

Mae Recordiau Côsh a Lisa wedi trafod ei gyrfa unigol ers sbel, gyda’r gantores yn mynegi ei greddf i greu cerddoriaeth piano a llais gydag enaid a groove, wedi ei ysbrydoli gan artistiaid fel Carole King.

Cafodd y sengl newydd, ‘Aros’, ei hysgrifennu a’i recordio yn ystod y cyfnod dan glo. Fe recordiodd y cerddorion Twm Dylan (bas), Amane Suganami (piano) ac Osian Williams (dryms) eu darnau gartref cyn i’r cynhyrchydd, Ifan Jones, o gwmni DRWM orffen y trac yn stiwdio Sain.

Comisiynodd Lisa yr artist Sioned Medi (SMEI) i animeiddio fideo i’r gân a gafodd ei ddangos am y tro cyntaf ar raglen Heno S4C wythnos diwethaf.