Rhyddhau sengl gyntaf Static Inc

Mae’r grŵp roc newydd o Gaerdydd, Static Inc, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf yn ddigidol, sef ‘Tangelo’.

Er bod y grŵp yn enw newydd, ac mai dyma ydy eu sengl gyntaf, mae’n ymddangos fod y trac ar y gweill ers peth amser, fel yr eglurodd Dan o’r band wrth Y Selar.

“Rydym wedi bod yn gweithio ar y gân ers 2018 – mi wnaethon ni ddechrau recordio bron dwy flynedd union cyn i ni ei rhyddhau.

“Recordiwyd y gân ar ein dyddiau bant o’r day jobs, yn nhai ein gilydd lle’r oedd gennym ystafelloedd recordio syml wedi’i gosod.”

Mae modd cael gafael ar y sengl ar safle Bandcamp y grŵp.

Sŵn y ddinas

A hwythau wedi ffurfio yn y brifddinas, mae eu hamgylchedd wedi dylanwadu ar sŵn y band.

“Penderfynom ni ein bod ni eisiau ysgrifennu cerddoriaeth gyda themâu metropolitaidd, gan nad oedden ni’n teimlo bod digon o safbwyntiau Cymraeg ar y cysyniad yna” eglura Dan.

“Felly mi wnaeth Siôn, prif gyfansoddwr y grŵp, ysgrifennu am broblemau gentrification a gor ddatblygu yn ein dinas, Caerdydd.”

Yn gerddorol mae gwaith y grŵp wedi’i ddylanwadu arno gan grwpiau fel Cocteau Twins, Talking Heads a Santana, a hynny’n creu “concrete jungle” i ddefnyddio geiriau Dan sy’n symud o heddwch i ‘hectic’ yn sydyn, fel bywyd yn y ddinas.

Cynhyrchwyd y gân gan Dan ei hun, a dywed ei fod wedi anelu at awyrgylch ‘lived-in’ trwy ddefnyddio offerynnau a chyfarpar sydd ddim yn rhy ddrud, a thechnegau recordio syml ond anarferol.

Y newyddion da ydy bod tipyn o gerddoriaeth ar y ffordd gan y grŵp, ond bydd rhaid i ni ddisgwyl nes cael gwybod mwy am hyn!