Mae Ani Glass wedi rhyddhau sengl gyntaf ei halbwm newydd heddiw, 17 Ionawr.
Mwy am y trac a’r albwm isod, ond gyntaf, dyma’r fideo ar gyfer y sengl:
Mae’r trac cyntaf o’r albwm i weld golau dydd yn dwyn yr un enw a’r record hir arfaethedig, sef ‘Mirores’.
Datgelodd y gantores bop electronig o Gaerdydd ddiwedd mis Tachwedd ei bod wedi gorffen recordio ei halbwm cyntaf, ac y bydd yn cael ei ryddhau ar label Recordiau Neb ar 6 Mawrth 2020.
Cyhoeddodd y label ffilm fer yr un pryd lle’r oedd Ani’n trafod y broses o greu’r albwm, a’r themâu sy’n codi ar y casgliad.
Yn y ffilm mae Ani’n datgelu bod dinas Caerdydd yn thema ganolog i’r albwm, a’i fod yn gasgliad rhannol gysyniadol ynglŷn â diwrnod ym mhrif ddinas Cymru a’r profiadau mae rhywun yn ei gael.
Mae hefyd yn adlewyrchu ei phrofiadau hi’n cael ei magu yn y ddinas, ac mae Ani’n trafod rhywfaint ar hynny yn ffilm fer.
Taith….a thaith
Mae’r gantores wedi bod yn gweithio ar yr albwm ers tua thair blynedd, ac mae wedi bod yn trafod y daith y bu arni yn ystod y cyfnod hwnnw.
Wrth baratoi i ryddhau’r sengl, mae Ani hefyd wedi cyhoeddi manylion taith hyrwyddo ar gyfer yr albwm sy’n cynnwys gigs yng Nghaerdydd, Caernarfon, Wrecsam a Chaerfyrddin.
Dyma ddyddiadau llawn y daith:
6 Mawrth – Clwb Ifor Bach, Caerdydd (gyda Twinfield)
7 Mawrth – Gorsaf @ Galeri, Caernarfon (gyda Twinfield)
13 Mawrth – Recordiau Spillers, Caerdydd
14 Mawrth – Tŷ Pawb, Wrecsam (gyda Worldcub)
21 Mawrth – Tangled Parrot, Caerfyrddin