Rhyddhau sengl Yr Eira, ac albwm i ddod

Mae Yr Eira wedi rhyddhau eu sengl newydd ddydd Gwener diwethaf, 13 Mawrth, gan gyhoeddi hefyd fod albwm newydd ar y ffordd ganddynt.

‘Pob Nos’ ydy enw’r sengl newydd a dyma’r blas cyntaf  o’u hail albwm, Map Meddwl fydd yn cael ei ryddhau ar 5 Mai.

Ar ôl blynyddoedd prysur yn 2017 a 2018 a welodd gigio cyson a rhyddhau eu halbwm cyntaf, Toddi, ym Mehefin 2017, roedd 2019 yn flwyddyn dawel i’r grŵp. Ond a hwythau wedi sefydlu ei hunain fel un o brif fandiau’r sin dros y cyfnod hwnnw, bydd croeso mawr i’r newyddion am gynnyrch newydd.

Deuawd deniadol

Mae’r sengl newydd yn cynnwys cyfraniad amlwg gan gitarydd a phrif ganwr un o fandiau eraill mwyaf poblogaidd Cymru, sef Los Blancos. Mae Gwyn Rosser o’r grŵp yn hen ffrind i ffryntman Yr Eira, Lewys Wyn, ac roeddent yn arfer rhannu tŷ â’i gilydd.

Disgrifir y sengl newydd gan Yr Eira fel “Y ddeuawd sydd wedi bod ar goll o’ch bywydau” gyda Gogledd Cymru’n cwrdd â De Cymru. Ysgrifennwyd y trac ar y cyd gan y ddau ffrind sydd wedi treulio sawl noson hwyr yn ysgrifennu caneuon gyda’i gilydd dros y blynyddoedd.

O ystyried cyfeillgarwch Lewys a Gwyn, mae’n briodol bod y ‘Pob Nos’ yn gân am frawdoliaeth, ac yn deyrnged i’r holl gerddoriaeth y mae’r ddau wedi’u cyfansoddi’n answyddogol dros y blynyddoedd.

Mae’r sengl hefyd yn deyrnged i’r oriau a dreuliwyd yn gwrando ar Ben Kweller, LCD Soundsystem, Super Furry Animals, Waves, Bowie a llawer mwy.

Mae cerddoriaeth ‘Pob Nos’ yn tueddu i ochri’n fwy at gyfeiriad sŵn yr artistiaid hynny, sy’n wahanol i sŵn indi-pop y tonfeddi radio yng Nghymru. Mae sŵn ‘Pob Nos’ yn slacyr garej indi-roc wedi’i lapio mewn swagger Bowie, gyda melodi cariadus a harmonïau hyfryd wedi’u plethu trwy’r gân.

Fideo ‘Pob Nos’

I gydfynd â rhyddhau’r sengl, mae fideo ‘masterchef gwallgo’ wedi’i gyfarwyddo a chynhyrchu gan frawd mawr Lewys, Griff Lynch (Yr Ods) a Ryan Eddleston wedi cael ei gyhoeddi hefyd.

Fel mae Lewys yn datgelu mewn sgwrs yn rhifyn diweddaraf Y Selar, Map Meddwl, fydd enw albwm newydd Yr Eira – record mae’r band yn disgrifio fel ‘casgliad o syniadau sy’n rhoi cyfeiriad i amcanion a meddyliau person; yn fap meddwl o feddyliau.

Mae’r albwm yn cyffwrdd â sawl thema, o dor-calon (‘Blaguro’) i anobaith a’r rhwystrau sy’n dy atal rhag symud ymlaen (‘Straeon Byrion’).

Mae dadansoddiad trylwyr o fywyd trwy’r albwm i gyd, yn darganfod y rhwystrau sydd wrth drio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng byw bywyd cyffrous ac amrywiol gyda bywyd diflas, ailadroddus.

Yn y caneuon ‘Newid’ a ‘Corporal’ pwysleisir yr angen am newid mewn bywyd a’r peryg o syrthio mewn i fywyd undonog, diflas.

Recordiwyd ‘Pob Nos’ a Map Meddwl yn Stiwdio Sain gyda Stiwdio Drwm (Ifan Emlyn ac Osian Huw). Cymysgwyd a mastrwyd yr albwm gan Eddie Al-Shakarchi a Recordiau I KA CHING fydd yn rhyddhau’r casgliad.

Dyma’r fideo ardderchog ar ‘gyfer Pob Nos’: