Mae Recordiau Noddfa wedi rhyddhau trac cyntaf casgliad ‘COFI 19’, sef casgliad o draciau wedi eu curadu gan y grŵp Pasta Hull yn ystod cyfnod y cloi mawr.
Casgliad arbennig o draciau sydd wedi eu creu dros fisoedd y cloi ydy ‘COFI 19’, sy’n cyfuno talentau amryw fandiau ac artistiaid o Ogledd Cymru, gan gynnwys Pys Melyn, Papur Wal, Kim Hon a Rhys Trimble i enwi rhai.
Mae’r trac cyntaf, ‘dennis bergkamp till i die’ yn gweld Pasta Hull yn cyd-weithio gyda Papur Wal gan roi blas o’r hyn sydd i ddod ar weddill y casgliad.
Fel mae’r enw’n awgrymu, mae hon yn gân deyrnged i’r cyn bêl-droediwr Dennis Bergkamp fu’n seren i Ajax, Inter Milan, Arsenal a’r Iseldiroedd.
Nid dyma’r tro cyntaf i Papur Wal ddwyn ysbrydoliaeth o’r byd chwaraeon ar gyfer eu caneuon wrth gwrs – roedd y gân boblogaidd ‘Yn Y Weriniaeth Tsiec’ wedi ei seilio ar hanes bywyd y sgïwr Jan Hudec, a’r trac ‘Piper Malibou’ yn trafod marwolaeth trist y pêl-droediwr Emiliano Sala.
Cyfuniad o’r gwir…a llai gwir
Mae’r trac newydd wedi ei hysgrifennu gan y basydd Gwion Ifor o’r grŵp Papur Wal, ac wedi ei chynhyrchu gan Llyr o Pasta Hull ac Ianto o Papur Wal. Mae’r geiriau’n gyfuniad o hanesion gwir, a dychmygol am Dennis Bergkamp.
“Nath Gwi rhoi bassline i lawr a wedyn sgwennu melody a geiria i fynd efo fo” eglura Ianto Gruffydd o Papur Wal.
“Ma rhannau o’r geiriau yn wir, a rhannau yn gibberish, fel y bit amdana fo’n ’neud clogs. Natha ni hefyd gyflwyno cymeriadau sef Mam a Dad Dennis i’r gân a chreu ryw fath o naratif am Dennis fel hogyn drwg sy ‘just isio chwara ffwtbol.
“Oedd y trac yn wahanol iawn i unrhyw beth arall da ni di neud oherwydd y strwythur, mewn ffordd do’dd na ddim strwythur, so odd raid ni greu un am ben beats rhywun arall, yn amlwg ma hyn yn wahanol iawn i strwythur traddodiadol caneuon pop da ni fel arfer yn ’sgwennu.
“Er hynna, natha ni drio rhoi elfennau fel hynna fewn trwy greu dilyniant a datblygiad i’r gân sy’n adeiladu layers a layers o vocals i’r darn acapella, a wedyn unwindio efo llwyth o vocals Gwi a delay fel bod y peth yn disgyn yn ddarna at y diwadd.
“Dwi’n meddwl bod hwn lot mwy cohesive a complete na’r trac dwytha natha ni efo Pasta Hull, ma sŵn synths a beats nodweddiadol Pasta Hull a harmonies a naratifs Papur Wal yn isda efo’i gilydd yn dda yn y gân. ”
Mae ‘dennis bergkamp till i die’ allan yn ddigidol ers dydd Gwener diwethaf ar label Recordiau Noddfa.
Er nad oes dyddiad penodol wedi ei gadarnhau eto, yn ôl Recordiau Noddfa bydd gweddill casgliad ‘COFI 19’ yn ymddangos cyn diwedd mis Gorffennaf.