Mae’r grŵp a ffurfiwyd yn gynharach eleni, Cwtsh, wedi rhyddhau eu trydedd sengl ers dydd Mawrth 1 Rhagfyr.
‘Ein Trysorau Ni’ ydy enw’r sengl newydd, ac mae’n ddilyniant i’w sengl gyntaf, ‘Gyda Thi’ a ryddhawyd ym mis Mehefin, ac yna ‘Cymru’ a gafodd ei rhyddhau ym mis Medi.
Rhyddhaodd y grŵp fideo newydd ar gyfer ‘Cymru’ wythnos diwethaf, ac fe’i ddangoswyd am y tro cyntaf ar raglen Heno, S4C.
Mae Cwtsh yn un o’r grwpiau hynny sydd wedi llwyddo i ffynnu yn ystod 2020 er gwaetha’r cyfyngiadau.
Efallai nad yw hynny’n syndod o ystyried y tri cherddor profiadol sy’n aelodau o’r grŵp.
Mae’r triawd yn cynnwys Alys Llywelyn-Hughes, sydd hefyd yn perfformio dan yr enw Lunar Glass; Siôn Lewis, fu’n aelod o nifer o grwpiau fel Edrych am Jiwlia, Y Gwefrau ac Y Profiad yn y gorffennol; a Betsan Haf Evans sydd wedi bod mewn llwyth o fandiau gan gynnwys Y Panics, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Genod Droog, Kookamunga ac y Gwdihŵs.
Yn ôl y grŵp mae’r sengl newydd yn gân felodaidd, gyda Siôn yn cymryd cyfrifoldeb am y canu yn hanner cyntaf y gân. Mae hyn yn rhoi teimlad reit wahanol i’r trac o’i gymharu â’u senglau blaenorol.
Mae llais Alys yn ymuno’n hwyrach yn y gân i greu deuawd fach hynod o brydferth, gyda Betsan, sydd hefyd wedi rhyddhau cerddoriaeth yn unigol eleni, yn ymuno ar gyfer yr harmonïau cyfoethog iawn tuag at ddiwedd y gân.
Y newyddion pellach ydy fod y grŵp wedi bod yn gweithio’n ddiwyd ar ganeuon newydd a bellach yn gobeithio rhyddhau albwm llawn mor fuan a mis Chwefror.
Mae ‘Ein Trysorau Ni’ ar gael yn ddigidol ar safle Bandcamp Cwtsh.