Rhyddhau ‘Tynnu Gwaed’ gan Rhodri Brooks

Mae’r cerddor o Gaerdydd, Rhodri Brooks, wedio rhyddhau sengl Gymraeg newydd heddiw, 7 Chwefror.

‘Tynnu Gwaed’ ydy enw’r trac newydd ganddo, a label Bubblewrap Collective sy’n rhyddhau.

Mae’r trac wedi’i recordio yn stiwdio Rat Trap yng Nghaerdydd gyda Tom Rees o’r grŵp Buzzard Buzzard Buzzard yn cynhyrchu.

Y cerddorion eraill sy’n cyfrannu at y recordiad ydy Stephen Blach (Sweet Baboo), Sam Barnes (Shoebox Orchestra) a Davey Newington (Boy Azooga).

Tom Raybould sy’n cael ei adnabod hefyd fel y cerddor Quodega, sy’n gyfrifol am y mastro.

Bydd Rhodri yn chwarae gyda dau o fandiau eraill label Bubblewrap, sef HMS Morris a Cotton Wolf, yn Cinema & Co, Abertawe ddydd Gwener fel un o ddigwyddiadau Dydd Miwsig Cymru.