Mae’r cerddor poblogaidd, Rhys Gwynfor, wedi rhyddhau ei sengl newydd heddiw, 24 Ionawr.
‘Esgyrn Eira’ ydy enw cynnyrch diweddaraf Rhys, ac mae’n cael ei ryddhau’n ddigidol gan Recordiau Côsh.
Hon ydy pedwaredd sengl i Rhys ryddhau ar label Recordiau Côsh, sy’n cael ei reoli gan ei gyfaill Ywain Gwynedd.
Datblygu’r sŵn
Ers rhyddhau ‘Capten’ yn haf 2018, mae Rhys wedi bod yn brysur yn ysgrifennu a recordio gyda chwmni cynhyrchu Drwm yn stiwdio Sain, Llandwrog.
Mae’r bartneriaeth honno wedi datblygu sŵn sy’n unigryw i Rhys, ond sydd hefyd yn adlewyrchu ei gariad tuag at gerddoriaeth wahanol, o Freddie Mercury i Daft Punk.
Mae’r sengl ddiweddaraf yn mynd ychydig ymhellach wrth i Rhys dderbyn cymorth Owain Gruffydd (Band Pres Llareggub) a ychwanegodd gyrn epig o’r ‘middle 8’ ymlaen.
Mae’n debyg fod albwm ar y ffordd gan Rhys, ac mae addewid o gyfleoedd i’w weld yn perfformio’n fyw gyda’i fand yn y Gwanwyn a’r Haf cyn i unrhyw gyfanwaith gael ei ryddhau.