Mae’r grŵp electronig, Roughion, wedi rhyddhau eu cynnyrch diweddaraf ar ffurf y sengl ddwbl ‘Target The Moon / Acid Test’.
Mae’r prif drac wedi tyfu o wylio rhaglen ddogfen am y lloeren gyntaf a anfonwyd i’r gofod, ac wedi bod ar y gweill ers tua dwy flynedd.
Chwaraewyd fersiwn demo o’r trac ar y radio ar ddiwedd 2019, ond mae’r grŵp wedi ail-weithio’r sampl a gwneud y trac yn fwy bachog cyn rhyddhau’n swyddogol.
Mae’r ail drac, ‘Acid Test’ yn dechrau gyda sŵn drôn sy’n denu’r gwrandäwr i wewyr cyn cyflwyno’r bas acid house a samplau amrywiol sy’n cael eu defnyddio.