Sbardun – Sengl newydd Daf Jones

Mae’r cerddor o Ynys Môn, Daf Jones, wedi rhyddhau ei ail sengl o’r Hydref eleni wrth iddo baratoi i ryddhau ei albwm llawn cyntaf yn y flwyddyn newydd.

‘Sbardun’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener 20 Tachwedd ac sy’n ddilyniant i ‘Diffodd y Swits’ a ryddhawyd ym mis Medi.

Bydd y ddwy sengl yn ymddangos ar ei albwm cyntaf, ‘Paid Troi ‘Nôl’ a fydd yn cael ei ryddhau’n annibynnol ar 8 Ionawr 2021.

Yn ôl Daf, cafodd ‘Sbardun’ ei hysgrifennu llynedd, a’i recordio’n gynharach yn y flwyddyn eleni.

“Mi gafodd ‘Sbardun’ ei ysgrifennu tua blwyddyn yn ôl bellach” eglura’r cerddor

“Yna ar gychwyn mis Ionawr flwyddyn yma, mi fues i draw at Rhys Jones draw yn Stiwdio Ty’n Rhos, Bryngwran, Ynys Môn i gychwyn gwaith ar gasgliad o ganeuon cyn mynd ati i greu albwm llawn yn cynnwys deg o draciau newydd.

“Hwn fydd fy albwm llawn cyntaf ar ôl rhyddhau EP dwyieithiog flwyddyn dwytha [Gorffennaf 2019].”

“Cafodd ‘Sbardun’ ei roi at ei gilydd yn y stiwdio yn ôl ym mis Ionawr i adeiladu ar y fersiwn acwstig yr oeddwn i wedi ei ysgrifennu yn y lle cyntaf.

“Mae’r gân yn trafod rhywun yn chwilio i ddarganfod sbardun mewn perthynas a cheisio ailgynnau rhywbeth sydd wedi cael ei golli neu yn diflannu.”

Adeiladu ar lwyddiant

Cafodd sengl ddiwethaf Daf Jones, ‘Diffodd y Swits’, dderbyniad da a’i chynnwys fel ‘Trac yr Wythnos’ ar BBC Radio Cymru ddiwedd mis Medi.

Mae’r cerddor yn gobeithio gweld ‘Sbardun’ yn adeiladu ar hyn ac wrth gwrs bod yr albwm yn adeiladu ar hynny yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Mae Daf Jones yn dod o Langefni, ac wedi bod yn cyfansoddi caneuon ers tua pymtheg blynedd ar ôl dysgu ei hun sut i chwarae’r gitâr.

Bu i’r brifysgol yn Aberystwyth, ac ar ôl graddio dechreuodd chwarae mewn nosweithiau meic agored, cyn symud ymlaen i wneud gigs achlysurol yn lleol i ddechrau, ac yna taflu’r rhwyd ychydig yn ehangach.

Mae ‘Sbardun’ ar gael yn ddigidol yn y llefydd arferol, a bydd yr albwm, ‘Paid Troi ‘Nôl’ hefyd ar gael yn ddigidol ar 8 Ionawr. Mae bwriad i ryddhau’r albwm ar ffurf CD yn y man hefyd, gyda mwy o wybodaeth i ddilyn yn fuan.