Sengl a Fideo newydd Teleri

Mae’r gantores electroneg newydd Teleri, wedi rhyddhau sengl newydd ar-lein wythnos diwethaf.

Mae Teleri yn artist cerddorol a gweledol sy’n disgrifio ei cherddoriaeth fel caneuon sy’n archwilio ei phrofiad personol o’r byd natur, gan gyfleu tirwedd newidiol ei hiechyd meddwl.

Ymddangosodd y gantores gyntaf ar ddechrau’r flwyddyn eleni gan ryddhau’r trac ‘Euraidd’ a gafodd ymateb arbennig o dda.

Nawr mae wedi dilyn y trac hwnnw gyda sengl newydd o’r enw ‘Adenydd’ sydd ar gael i’w chlywed a lawr lwytho ar ei safle Bandcamp. Roedd cyfle cyntaf i glywed y trac newydd ar raglen Georgia Ruth ar BBC Radio Cymru yn ddiweddar.

Mynegiant o ryddid

Yn ôl y gantores, mae’r fideo a’r gân yn fynegiant o ryddid mewnol wrth i ni wynebu cyfyngiadau allanol. Mae’n gobeithio gall y gân gynnig rhywfaint o obaith i’r rhai sy’n gwrando yn ystod y cyfnod yma o ansicrwydd a phryder.

Mae Teleri wedi bod yn ysgrifennu caneuon acwstig ers rhai blynyddoedd bellach, ond yn ddiweddar wedi dechrau troi at gerddoriaeth electronig er mwyn cyfoethogi ei sŵn.

Mae pryder cymdeithasol yn dylanwadu ar gynnwys a phroses greu Teleri, ac mae defnyddio meddalwedd cynhyrchu Abelton Live yn ei galluogi i weithio mewn ffordd annibynnol o bobl eraill.

Fel artist gweledol, un o brif amcanion Teleri ydy creu gwaith sy’n cyfathrebu elfennau o’i phrofiad o dreulio amser mewn natur gwyllt – lle, sydd ym marn y gantores, yn creu sicrwydd a rhyddid.

I gyd-fynd â’r sengl newydd mae hefyd wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y trac ar ei sianel YouTube. I greu’r fideo newydd mae wedi defnyddio clipiau rhydd o freindaliadau gydag animeiddiadau mae wedi creu ei hun gan ddefnyddio meddalwedd Pencil 2D.

Dyma’r fideo: