Sengl ddwbl Crawia

Mae Crawia wedi rhyddhau sengl ddwbl newydd ddydd Gwener diwethaf, 1 Mai.

Crawia ydy prosiect diweddaraf y cerddor Sion Richards o Fethesda sydd wedi bod yn aelod o nifer o grwpiau yn y gorffennol gan gynnwys Wyrligigs a Jen Jeniro.

Mae’n disgrifio cerddoriaeth ei brosiect diweddaraf fel Americana acwstig, a dywed fod y ddwy sengl yn rhoi blas o’i albwm cyntaf fydd allan ddiwedd yr haf.

Mae ‘Dawnsio i’r Un Curiad’ yn drac hwyliog sy’n dathlu sŵn ’sax’ Americana y 1970au, tra bod ‘Cân Am Gariad’, yn gân acwstig sy’n cynnig enydau tyner a chytgan gref.

Rhyddhaodd Crawia sengl ‘Bradwr’ yn 2018 gan ddenu ymateb arbennig o dda – fe’i henwyd yn ‘Gân y Mis’ ar flog From the Margins a’i dewis fel ‘Cân yr Wythnos’ gan BBC Radio Cymru. Ers hynny mae Sion a’i grŵp wedi bod yn brysur yn ysgrifennu, recordio a gigio cymaint â phosib.

Ynghyd â Sion, aelodau eraill Crawia ydy Sion Bailey Hughes, Sion Williams ac Edwin Humphries, ac maent wedi cael cyfle i gefnogi rhai o gerddorion amlycaf y sin gan gynnwys Meic Stevens a Bryn Fôn.

Prif ddylanwadau Crawia ydy artistiaid Americana megis Tom Petty a Bruce Springsteen ar un llaw, a grwpiau Cymreig megis Steave Eaves ac Iwcs a Doyle ar y llall.

Bydd Crawia yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ar ddiwedd yr haf gyda’r senglau ‘Dawnsio i’r Un Curiad’ a ‘Cân am Gariad’ yn damaid i aros pryd.

Mae’r sengl ddwbl allan yn ddigidol ar label Recordiau Hambon.