Sengl ddwbl Datblygu

Mae’r grŵp chwedlonol, Datblygu, wedi rhyddhau sengl ddwbl newydd sbon ers dydd Gwener 17 Gorffennaf.

‘Cymryd y Cyfan / Purdeb Noeth’ ydy enw sengl ddiweddaraf grŵp arloesol David R Edwards a Pat Morgan, ac fe’i recordiwyd ddim ond ychydig ddyddiau cyn y cloi mawr.

Ankstmusik sy’n rhyddhau’r sengl newydd, ac yn ôl y label mae’r dangos fod Pat a Dave dal ar dân yn greadigol ac yr un mor berthnasol a syfrdanol heddiw ag oedden nhw nôl yn eu dyddiau cynnar ym 1982, gan ddod â rhywbeth hollol unigryw i gerddoriaeth yng Nghymru.

“Yr unig beth sydd gan Datblygu yn gyffredin gyda grwpiau Cymraeg eraill yw ein bod yn rhannu yr iaith ond bron dim byd arall. Peidiwch da chi tagu ar eich peswch tra yn dawnsio yn eich blerwch.”

Geiriau David R.Edwards ym Mehefin 2020 wrth baratoi i ryddhau’r sengl ddwbl newydd.

Mae’n anodd anghytuno â Dave! Mae arwahanrwydd a pharhad Datblygu yng nghanol diwylliant Cymru, a’r bartneriaeth gerddorol rhyngddo a Pat yn rhywbeth gwerthfawr ac unigryw sy’n perthyn dim ond i’r ddau ohonyn nhw.

Albwm i ddod

Yn ôl y label mae ‘Cymryd y Cyfan’ yn dyst i’r undod arbennig yma – 100% Agwedd Datblygu.

Tair munud o farddoniaeth roc, rhythm a synnau cwbl gyntefig yn herio ac ysgwyd am yn ail. Llais yn annog ni i ddiystyru a hymddieithrio, hidio befo yn wir – barnu gyda barddoniaeth – pwyntio’r bys ar y difaterwch modern sy’n arwydd clir o’r tyfiant yn amherthnasedd dynoliaeth.

Ar y llaw arall mae ‘Y Purdeb Noeth’ yn dawelach, yn llai gwyllt, ac yn fwy personol.

Serch hynny, yn gwbl hypnotig, yn gafael yn dynn gyda rhythm anesmwyth a’r sŵn stylophone rhyfedd. Cân sy’n gwneud i ni deimlo fod brwydro i gael ein clywed dros sgrech y sirens ar y stryd yn weithred arwrol.

Mae newyddion da pellach o gyfeiriad Datblygu hefyd, sef bod albwm newydd sbon y grŵp ar y ffordd yn fuan iawn.

‘Cwm Gwagle’ ydy enw record hir ddiweddaraf y ddeuawd a fydd allan ar feinyl ddiwedd mis Awst, ond ar gael yn ddigidol cyn hynny ar 7 Awst.