Bydd Eädyth wedi cyd-weithio unwaith eto gydag Izzy Rabey i ryddhau sengl newydd o’r enw ‘Infinite Beaty’.
Rhyddhawyd y trac ar 18 Rhagfyr, yn un o ddwy sengl newydd gan Eädyth ar y diwrnod hwnnw ynghyd â’r trac a ryddhawyd ganddi hi ac Endaf, ‘Mwy o Gariad’.
Rhyddhawyd EP ar y cyd rhwng Eädyth ac Izzy ddiwedd mis Hydref, sef ‘Mas O Ma’, felly mae eu partneriaeth gerddorol yn amlwg yn un sy’n datblygu.
Mae’r sengl newydd hefyd yn cynnwys trac bonws Cymraeg o’r enw ‘Dyma Yw’.
Dyma’r ochr B: