Bydd sengl newydd ar y cyd rhwng tri artist electroneg yn cael ei rhyddhau ar 7 Chwefror.
‘Disgwyl’ ydy enw ffrwyth llafur cydweithrediad rhwng Endaf, Ifan Dafydd ac Eädyth, a dyma fydd y drydedd record i’w rhyddhau ar label High Grade Grooves.
Crëwyd a recordiwyd y trac yn stiwdio Endaf yng Nghaernarfon, ac wrth gyfuno dylanwadau’r tri artist, ceir sŵn jazzy a dyrchafol i’r gân.
Nid dyma’r tro cyntaf i Eädyth ac Endaf ryddhau cerddoriaeth gyda’i gilydd. Rhyddhawyd ‘Sownd yn y Canol’ ganddynt ychydig flynyddoedd yn ôl, ac ers hynny, mae’r ddau wedi rhyddhau sawl trac ar eu liwt eu hunain tra bod Ifan Dafydd wedi rhyddhau fersiynau wedi’u hail-gymysgu o draciau Thallo a Carwyn Ellis & Rio 18 yn y flwyddyn ddiwethaf.
Llynedd, roedd Eädyth yn rhan o brosiect BBC Gorwelion ac eleni, mae Endaf wedi’i ddewis fel un o’r 12 artist sy’n rhan o’r prosiect hwnnw.
Fel rhan o gynllun Gorwelion, bydd Endaf yn mynd a’i set electroneg byw i Siwdios Maida Vale ym mis Mawrth.