Mae grŵp sydd wedi bod yn cyfansoddi a pherfformio yn y Saesneg yn unig hyd hyn wedi penderfynu rhyddhau eu sengl Gymraeg gyntaf, sef ‘Cân y Wenynen’.
The Kelly Line ydy enw’r grŵp dan sylw – grŵp o Dde Cymru sy’n cael eu harwain gan dad a mab, sef Mike a Ben.
Mae’r ddau’n cyfansoddi ar y cyd gyda Ben yn perfformio naill ai setiau acwstig ar ben ei hun, neu gyda band llawn.
Pan fydd Ben yn perfformio gyda’r band llawn mae Jack Salter yn ymuno ar y bas, Connor Wyn Lewis ar y gitâr flaen ac Iestyn Morgan ar y drymiau a llais cefndir. Fel Ben, daw Jack yn wreiddiol o Loegr gydag Iestyn yn dod o Aberaeron a Connor o’r Rhondda.
Cyfarfu’r aelodau i gyd pan oeddent yn astudio Technoleg Cerddoriaeth ym Mhrifysgol De Cymru, gan ddechrau recordio a pherfformio’n fuan wedi hynny.
Derbyn yr anochel
Er mai yn y Saesneg maent yn canu fel arfer, mae Iestyn a Connor yn siaradwyr Cymraeg, a’r ddau arall wedi penderfynu ymgartrefu yng Nghymru, felly penderfynwyd ryddhau fersiwn Gymraeg o’u sengl Saesneg ddiweddaraf sef ‘The Ballad of the Bee’.
Yn ôl y band mae’r sengl ynglŷn â derbyn yr anochel.
Rydych yn cael eich temtio a cyn i chi sylweddoli rydych yn sownd mewn gwe ac yn methu dianc. Ysgrifennwyd y trac gan y band ar ôl gweld gwenynen yn cael ei dal mewn gwe pry cop.
“Wrth iddi straffaglu, roedd y we’n tynhau” eglura Ben.
“Doedd dim y gallai hi, na ninnau, wneud. Dyma hi’n parhau i frwydro ond doedd dim amheuaeth sut fyddai’r sefyllfa’n dod i ben, dim ond mater o amser oedd hi.
“Roedd yn drosiad pwerus. Wrth gwrs, mae dwy ochr i bob stori ac er bod y gân wedi’i hadrodd o safbwynt y wenynen, mi wnaethon ni ysgrifennu [cân arall] ‘Arachne’s Response’ sy’n adrodd yr hanes o safbwynt y pry cop.”
Cân pync uniongyrchol ydy ‘Cân y Wenynen’ yn ôl y grŵp gyda gitârs fuzzy, curiadau trwm y drymiau a llais cau pync Ben.
Mae’r grŵp hefyd wedi ffilmio fideo i gyd-fynd â’r fersiwn Saesneg o’r sengl.