Sengl gynta’ Patryma

Bydd grŵp newydd o ardal Caernarfon yn rhyddhau eu sengl gyntaf ddydd Gwener yma, 20 Mawrth.

Patryma ydy enw’r grŵp, ac mae ambell un o’r aelodau’n debygol o fod yn gyfarwydd i ffans o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

Band pedwar aelod ydy Patryma ac ymysg yr aelodau mae’r basydd Calvin Thomas, gynt o Derwyddon Dr Gonzo a CaStLeS, a’r drymiwr Rhys Evans sydd hefyd yn aelod o I Fight Lions. Aelodau eraill y grŵp ydy’r canwr Siôn Foulkes a’r gitarydd Daniel McGuigan.

Mae Patryma yn disgrifio eu hunain fel ‘band roc amgen’. Ffurfiodd y band wrth i Siôn a Dan ddechrau ysgrifennu caneuon ar gyfrifiadur yn nhŷ Dan.

Dan oedd yn gyfrifol am recordio darnau’n gitars a bas, tra fod Siôn yn gyfrifol am y dryms a’r canu.

Cân am genhedlaeth

Wrth siarad gyda’r Selar, eglurodd y prif ganwr sut aethant ati i ffurfio Patryma.

“Unwaith i ni sortio set byw, dyma ni’n mynd ati i chwilio am drymar a bassist” eglurodd Siôn Faulkes.

“Dwi’n nabod Rhys ac wedi bod mewn bandia efo fo o’r blaen ac ro’n i’n gwbod y bysa fo’n siwtio’r band. Daeth Calvin i ymuno wrth iddo fo siarad efo Dan a dod i deall bod ni’n edrych i sgwennu yr un fath o fiwsig.”

Enw sengl gyntaf y grŵp ydy ‘Disgyn’, ac fe’i recordiwyd yn Orange Studios, Penmaenmawr, gyda’r cynhyrchydd Russ Hayes.

“’Disgyn’ oedd y gân gyntaf i ni sgwennu, ac mae’r lyrics yn sôn am ein cenhedlaeth ni a sut mae’n gallu teimlo bod ni’n sownd yn yr un fan a ddim yn gallu symud ymlaen i gamau nesa bywyd – fel prynu tai” eglura’r canwr, Siôn Faulks.

“Oddwn i a fy mhartner yn ffendio’n hunain yn yr un sefyllfa a llawer o’n ffrindia ni lle oedda ni’n byw adra neu’n gorfod rhentu ac yn stryglo i safio deposit am dŷ lle bysa’n rhieni ni wedi prynu tai ers blynyddoedd.”

Mae’r sengl yn cael ei rhyddhau’n ddigidol ar yr holl lwyfannau digidol arferol, ac yn ôl y grŵp maen nhw’n gobeithio rhyddhau ail sengl tua mis Ebrill neu Mai, a dechrau gigio ddechrau’r haf.