Sengl gyntaf albwm newydd Georgia ar y ffordd

Bydd Georgia Ruth yn rhyddhau sengl gyntaf ei halbwm newydd ar ddydd Gwener 7 Chwefror.

‘Mai’ ydy enw trydydd albwm y gantores werin o Aberystwyth, a ‘Madryn’ fydd y sengl gyntaf sy’n cael ei rhyddhau fel tamaid i aros pryd nes dyddiad cyhoeddi’r record hir ar 20 Mawrth.

Label recordiau Bubblewap Collective sy’n rhyddhau’r albwm newydd, ac mae’r record yn mynd i’r afael â gwreiddiau Georgia, a hynny’n amserol iawn.

Yn dilyn genedigaeth ei phlentyn cyntaf, symudodd y cerddor a’i theulu’n ôl i’r dre lle’i magwyd hi – Aberystwyth.

Dyma gasgliad o ganeuon a sgwennwyd o grombil tŷ, tra bod plentyn bach yn cysgu – myfyrdod ydi ar geisio darganfod gobaith yn y tymhorau, mewn byd lle mae sicrwydd Gwanwyn yn teimlo’n fwyfwy bregus.

Mab a mynydd

Bydd sengl gyntaf yr albwm allan ar yr holl lwyfannau digidol ar 7 Chwefror, ac mae’r gân wedi’i hysgrifennu’n benodol i rywun arbennig iawn..

“Nesi sgwennu’r gân hon ar gyfer fy mab bach” eglura Georgia wrth drafod ‘Madryn’.

 “Daw ei enw canol, Madryn, o Garn Fadryn – y mynydd ym Mhen Llŷn. Oni isie iddo fe wybod fod ganddo fe rywbeth parhaol a chyson, hyd yn oed pan fo pethe’n dymhestlog, rhywbeth y galle fe fod yn sicr ohono.

“Mae ei gariad at y byd naturiol yn gymaint o gysur i mi, ac yn helpu i leddfu’r poenau am yr hyn sy’n digwydd i’n byd ar hyn o bryd.

“Oni eisiau dathlu’r rhyfeddod sydd mor gynhenid mewn plant bach, a thrio atgoffa fy hunan i beidio “ofni’r pethau tawel”.

Mae ‘Madryn’ allan ar yr holl lwyfannau digidol ar ddydd Gwener 7 Chwefror, a bydd ‘Mai’ ar gael yn ddigidol, ar CD, ac ar finyl cyfyngedig ar 20 Mawrth 2020.

 

Llun: Gwaith celf ‘Madryn’ gan Catrin Davies.