Bydd sengl gyntaf artist newydd o’r enw Anya yn cael ei rhyddhau ddydd Gwener yma, 4 Rhagfyr.
Prosiect cerddorol newydd Huw Ynyr, oedd yn aelod o’r grŵp Sŵnami yn eu dyddiau cynnar, ydy Anya. Gadawodd Huw y grŵp o Feirionydd er mwyn dilyn gyrfa yn y byd canu clasurol.
‘Blwyddyn Arall’ ydy enw ei sengl gyntaf sy’n cael ei rhyddhau ar label Recordiau Côsh.
Trac Nadoligaidd ydy ‘Blwyddyn Arall’ ac yn ôl y label mae’n sbin synth-pop sy’n chwa o awyr iach mewn genre sydd fel arferl yn cael ei lenwi gan ganeuon canol y ffordd diflas.
Mae Huw Ynyr wedi cael cryn lwyddiant yn y byd clasurol ers gadael Sŵnami gan ddod yn ganwr opera llawn amser. Ond mae 2020 a chyfyngiadau Covid wedi bod yn rhwystr creadigol iddo, felly penderfynodd fynd yn ôl i’w wreiddiau a mynd ati i drio ysgrifennu cân bop fodern.
“Gan fod bob dim eleni wedi mynd â’r ben i waered, o’n i’n meddwl y bydda hi’n bach o hwyl ‘sgwennu a chanu rhywbeth hollol wahanol i’r hyn dwi’n neud o ddydd i ddydd” meddai Huw.
Mae gan label Recordiau Côsh draddodiad o ryddhau senglau Nadolig – yn wir, ‘Blwyddyn Arall’ ydy’r bumed cân Nadolig i’r label ryddhau gan ddilyn ‘O Na! Mai’n Ddolig Eto’ gan Frizbee, ‘Fy Nghariad Gwyn’ gan Yws Gwynedd, ‘Dim ond Dolig Ddaw’ gan Sorela a ‘Dolig Hwn’ gan Delw.
Y gobaith ydy mai dim ond y dechrau i Anya ydy hyn ac y gallwn ddisgwyl mwy o gerddoriaeth gan yr artist yn y dyfodol.