Mae prosiect newydd o ardal Dolgellau wedi rhyddhau eu sengl gyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 12 Mehefin.
Josgins ydy prosiect diweddaraf Iestyn Jones, sydd wedi bod yn ganwr ar y grwpiau Rebownder ac Y Sybs yn y gorffennol. Rhyddhaodd Y Sybs drac Mint Sôs bedair blynedd nôl – un o’r nifer o ganeuon yn y cyfnod i gefnogi ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yn Ewro 2016.
‘Locdown yng Nghymru’ ydy enw sengl gyntaf Josgins, ac mae allan ar label Tarw Du. Fel mae enw’r trac yn awgrymu, mae’r gân wedi’i hysbrydoli gan y cloi mawr.
“Ar hyn o bryd, rydym fel llygod ar goll mewn drysfa, yn ceisio dod o hyd i’r ffordd allan” eglura Iestyn.
“Gobeithio, cyn bo hir, byddwn ni’n rhydd”
Bydd y sengl ddigidol ar gael i’w ffrydio a’i phrynu o’r holl brif lwyfannau cerddoriaeth digidol.
I gyd-fynd â’r sengl newydd, mae Josgins hefyd wedi rhyddhau fideo ar gyfer y trac. Ffilmiwyd a chyfarwyddwyd y fideo gan Leon Willis.