Bydd Tapestri, sef prosiect newydd dwy gantores gyfarwydd iawn, yn rhyddhau eu sengl gyntaf ddydd Gwener nesaf, 24 Gorffennaf.
Tapestri ydy enw partneriaeth gerddorol newydd Lowri Evans a Sera Zyborska, sy’n enwau cyfarwydd iawn ar lwyfannau Cymru ers sawl blwyddyn bellach.
Prosiect Americana ydy Tapestri, ac enw eu sengl gyntaf sy’n cael ei ryddhau ddydd Gwner yma, 24 Gorffennaf, ar label Shimi ydy ‘Y Fflam’.
Merched ar y blaen
Cyfarfu’r ddwy gantores brofiadol am y tro cyntaf yn Llydaw llynedd wrth iddynt berfformio ym Mhafiliwn Cymru yng ngŵyl enwog Lorient fis Awst.
Sbardunodd y cyfarfod hwnnw’r syniad o ffurfio band gyda merched ar y blaen, a chreu eu brand eu hunain o gerddoriaeth Americana.
Y nod ydy creu band fyddai’n gallu perfformio ar lwyfannau mawr a chynrychioli lleisiau menywod.
Maent wedi’i hysbrydoli’n arbennig gan The Highwomen, sef ‘supergroup’ o’r Unol Daleithiau sy’n cynnwys Brandi Carlile ac Amanda Shires, a ffurfiodd fel ymateb i ddiffyg cynrychiolaeth artistiaid benywaidd ar radio a gwyliau canu gwlad.
Yn ôl y ddwy mae eu caneuon yn cymryd eu lliwiau cerddorol o balet eang sy’n cynnwys Americana, ‘Roots’, Gwerin a Gwlad.
Dechrau anodd
Mae’r prosiect wedi cael dechrau heriol i’w gyrfa a dweud y lleiaf.
I ddechrau, roedd Tapestri am lansio mewn sioe yn Y Galeri Caernarfon nôl ym mis Chwefror, ond cafodd ei ganslo oherwydd difrod i’r theatr gan Storm Ciara.
Yna, fel nifer o grwpiau eraill, fe chwalwyd eu cynlluniau i recordio a rhyddhau EP a mynd ar daith haf, gan yr argyfwng Covid-19.
Ond, er eu bod yn byw bedair awr ar wahân, mae Lowri a Sera wedi llwyddo i barhau i weithio ar eu recordiadau. ‘
Y Fflam’ yw fersiwn Gymraeg o’u trac ‘Open Flame’ a fydd ar eu EP yn y dyfodol.