Sengl gyntaf Y Dail allan wythnos nesaf

Mae prosiect cerddorol newydd o  Bentre’r Eglwys ger Pontypridd yn paratoi i ryddhau sengl gyntaf ar 30 Hydref.

Y Dail ydy enw’r prosiect sy’n cael ei yrru gan y cerddor 17 oed, Huw Griffiths, sy’n cyfansoddi’r caneuon, chwarae’r gitâr, yr allweddellau ac yn canu.

Fe ffurfiodd y band yn wreiddiol yn 2018, ac mae’r amser wedi dod i ryddhau’r cynnyrch cyntaf.

Busnes teuluol

Mae’n debyg bod lein-yp Y Dail yn amrywio gan ddibynnu ar argaeledd offerynwyr, ond yr un aelod parhaol arall yn y grŵp ydy chwaer Huw, Elen, sy’n chwarae’r gitâr fas…

If it’s me and your granny on bongos then it’s Y Dail” meddai Huw wrth aralleirio dyfyniad enwog Mark E. Smith wrth sôn am ei fand The Fall.

‘Y Tywysog a’r Teigr’ ydy enw’r sengl gyntaf i ymddangos gan Y Dail, ond bydd mwy yn dilyn yn fuan gan fod Huw yn y broses o recordio cyfres o senglau gyda’r cynhyrchydd amlwg Kris Jenkins.

Yn ôl Huw, y bwriad ydy gweithio at ryddhau albwm cyntaf Y Dail erbyn hydref nesaf.

Fideo ar wefan Y Selar

I gyd-fynd â’r newyddion am ddyddiad rhyddhau’r sengl newydd mae Y Dail wedi cyhoeddi promo ar gyfer fideo’r gân, a bydd cyfle cyntaf i weld y fideo cyflawn ar wefan Y Selar ddydd Llun yma, 26 Hydref.

“Cafodd y geiriau eu hysgrifennu ar ôl darllen Y Bell Jar, a ffilmiwyd y fideo gyda ffrind ysgol ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd” meddai Huw am y sengl a fideo newydd.

Mae dylanwadau’r grŵp yn cynnwys Euros Childs, Captain Beefheart, Ani Glass, Television, Endaf Emlyn a Paddy McAloon cynnar – allwn ni ddim dadlau gyda’r dylanwadau yna, ac mae sŵn Y Dail yn swnio’n grêt o’r hyn rydan ni wedi clywed hyd yma.

Yn ôl Huw mae wedi recordio demos ar gyfer tua 30 o ganeuon, felly gallwn ddisgwyl cryn dipyn gan Y Dail yn y dyfodol!

Bydd y sengl newydd ar gael ar yr holl lwyfannau digidol arferol ddydd Gwener nesaf, 30 Hydref.

Dyma’r promo am y fideo fel tamaid i aros pryd nes yr un llawn ddydd Llun: