Mae’r grŵp Hippies vs Ghosts wedi rhyddhau sengl newydd o’r enw ‘Tonau’ wythnos diwethaf.
Hippies vs Ghosts ydy prosiect unigol Owain Ginsberg, sydd gyfarwydd el aelod o’r grwpiau Gogz, The Heights ac We Are Animal.
Creodd dipyn o argraff gyda’r albwm ‘Droogs’ yn 2015, ac ers hynny mae wedi bwrw mlaen i ryddhau tipyn o gynnyrch pellach.
Rhyddhawyd albwm diweddaraf Hippies Vs Ghosts, ‘Intervention’ ym mis Ebrill eleni, ac mae’n amlwg fod Owain wedi parhau’n gynhyrchiol yn ystod y cyfnod cloi wrth i’r sengl newydd ymddangos ar 21 Gorffennaf.
Mae Owain wedi dweud wrth Y Selar bod albwm newydd ar y gweill ganddo, a’i fod yn gobeithio bydd hwn allan cyn diwedd 2020.
Mae modd cael gafael ar y sengl ar safle Bandcamp Hippies vs Ghosts.