Bydd prosiect newydd o gymoedd De Cymru, Indie Arcade, yn rhyddhau sengl gyntaf ar ddiwedd mis Awst.
Prosiect Dubstep / Roc / Pop dirgel ydy Indie Arcade, a bydd y sengl ‘Lost/Ar Goll’ ar gael yn ddigidol ar Spotify ar 29 Awst.
Mae’r penderfyniad i ryddhau’r trac yn swyddogol wedi dod yn sgil llwyddiant anhygoel y gân ar safle Soundcloud – mae dros 55,000 wedi gwrando ar y trac ar ôl dim ond tair wythnos ar-lein.
Er bod peth dirgelwch ynglŷn â phwy yn union ydy Indie Arcade, dywed y cerddor ei fod wedi bod yn gweithio ar y prosiect ers pum mlynedd “allan o ddiflastod ac eisiau mynegi fy nghyflwr meddwl gyda phryder ac iselder.”
Dywed Indie Arcade bod cynlluniau i ryddhau mwy o gynnyrch, ac y bydd yn cyd-weithio gyda rapiwr o Gymru’n fuan.
Dyma ‘Lost/Ar Goll’: