Mae’r grŵp o Ynys Môn a Morfa Nefyn, Fleur de Lys, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 18 Rhagfyr.
‘Amherffaith Perffaith’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh.
Rhyddhawyd albwm llawn cyntaf Fleur De Lys ym mis Hydref 2019, ac ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach maent yn ôl gyda sengl Nadoligaidd newydd.
Recordiwyd ‘Amherffaith Perffaith’ yng nghartref drymiwr y grŵp, Siôn Roberts, gan fod y stiwdio arferol maent yn ei defnyddio, sef Stiwdio Ferlas ym Mhenrhyndeudraeth, wedi cau am y tro.
O’r herwydd, mae’r band wedi manteisio ar y cyfle i gyflwyno rhywbeth mwy ‘stripped back’, i ddefnyddio eu geiriau hwy, ac wedi mwynhau gwneud hynny.
“Roedd ‘na fwriad wedi bod i sgwennu cân dolig ers blynyddoedd ac oeddan ni’n gweld flwyddyn yma fel cyfle perffaith i wneud” meddai pianydd Fleur De Lys, Huw Harvey.