Mae’r cerddor ac actor amlwg Dyfrig Evans wedi rhyddhau sengl newydd ers dydd Gwener 11 Rhagfyr.
Daeth Dyfrig i’r amlwg fel cerddor yn gyntaf fel gitarydd a phrif ganwr gyda’r grŵp Topper ar ddiwedd y 1990au, cyn dechrau rhyddhau cerddoriaeth ei hun yn ddiweddarach. Cymharol dawel fu hi o ran cerddoriaeth newydd ganddo dros y blynyddoedd diwethaf, ond nawr mae nôl gyda thrac Nadoligaidd newydd.
‘Mae Gen i Angel’ ydy enw’r sengl Nadolig newydd ganddo sydd allan ar label JigCal.
Wrth drafod y trac newydd, eglura Dyfrig ei fod wedi mynd ati i ysgrifennu’r gân drwy ddamwain, ac nad oedd ganddo unrhyw fwriad cyfansoddi cân Nadolig ar y pryd.
‘Yng nghanol blwyddyn anodd iawn i bawb a phopeth, tua 6 wythnos yn ôl tra’n gobeithio ‘sgwennu sgript, mi wnes i gael fy ysbrydoli gan beron arbennig iawn wrth fy ochr yn y gegin – angel fy mywyd – a phenderfynu cyfansoddi cân yn lle…can ‘Dolig” meddai Dyfrig.
“Oeddan ni’n gwrando ar John Lennon ar y pryd, oherwydd ei bod hi’n flwyddyn coffa 40 mlynedd ers ei farwolaeth. Felly, yn fwriadol, nes i gyfansoddi cân oedd wedi ei ysbrydoli’n llwyr gan sŵn un o fy arwyr gorau yn y byd.”
Yn ôl y cerddor, does dim byd cymhleth na chlyfar am y sengl, sydd efallai’n gweddu ar gyfer trac Nadoligaidd.
“Cân syml. Geiriau syml. Melodi syml. Fydd gobeithio yn diddanu clustiau plant, hŵligans, gwŷr a gwragedd, neiniau a theidiau a phawb arall sydd isho byw yn gytûn.