Sengl Nadolig Osian Candelas a Rhys Gwynfor

Mae dau o gerddorion amlycaf Cymru wedi dod ynghyd i recordio a rhyddhau sengl Nadoligaidd newydd ers dydd Gwener 2 Rhagfyr.

Y ddau gerddor dan sylw ydy Osian Huw Williams a Rhys Gwynfor, ac enw’r trac newydd ydy ‘Mae ‘Ne Rwbeth Am Y ‘Dolig’. Gallech chi ddisgrifio’r bartneriaeth Nadoligaidd fel un David Bowie a Bing Crosby efallai…fyny i chi benderfynu pa un ydy’r naill a’r llall (pa-rum pum pum pum).

Label Recordiau I KA CHING sy’n gyfrifol am ryddhau’r sengl newydd ac yn eu tyb nhw mae pawb angen ychydig bach o hud a lledrith eleni, a dyna’n union mae ffrindiau bore oes wedi cyfuno i’w greu gyda’r trac yma.

Mae’r trac wedi’i gyfansoddi gan Osian a’i chwaer, Branwen Haf Williams, gan geisio dal y teimlad arbennig a geir dros yr ŵyl wrth i heb wynebau ail gyfarfod.

Y neges ydy nad oes ots faint o amser sy’n mynd ers i chi weld ffrindiau plentyndod, mae’r cwlwm yn un tynn. Ychwanegwch ddos o nostalgia Nadoligaid, ac fe ddaw’r cwlwm hwnnw hyd yn oed yn dynnach.

Ysbrydolwyd y trac gan ysblander cerddoriaeth Arcade Fire a Springsteen a cherddorfeuthu The Last Shadow Puppets. Unig nod ‘Mae ‘Ne Rwbeth am y ‘Dolig’ ydy codi calon a dymuno ‘Dolig Llawen iawn i bawb.