Mae Alun Gaffey wedi rhyddhau ei gynnyrch cyntaf ers 2016 ar ffurf sengl newydd, ‘Yr 11eg Diwrnod’.
Rhyddhawyd y sengl yn ddigidol gan Recordiau Côsh ddydd Gwener diwethaf, 10 Ionawr, ac mae’n damaid i aros pryd nes albwm newydd y cerddor dawnus sydd ar y gweill.
Mae Alun yn gyfarwydd fel cyn aelod o grwpiau Pwsi Meri Mew a Radio Luxemburg / Race Horses, ond yn fwy diweddar mae wedi torri cwys ei hun fel cerddor unigol, gan ryddhau ei albwm cyntaf, ‘Alun Gaffey’, yn 2016.
Bydd y rhai sy’n gyfarwydd ag albwm cyntaf Alun yn adnabod y sŵn yn syth ar y sengl newydd – sŵn hollol unigryw oedd yn chwa o awyr iach i dirwedd cerddorol Cymru yn 2016. Mae’n anodd iawn rhoi cerddoriaeth Alun Gaffey i mewn i genre twt ac mae’n anheg ymdebygu’r sŵn i bethau eraill hefyd.
Mae’r trac newydd a gweddill y caneuon ar yr albwm newydd wedi’u cynhyrchu gan Frank Naughton yn stiwdio Tŷ Drwg yn Nhrelluest, Caerdydd.
Bydd ‘Yr 11eg Diwrnod’ yn gyflwyniad perffaith i’r math o ganeuon fydd ar yr albwm – ond bydd rhaid aros nes y Gwanwyn am y record hir. Mae band yn cael eu rhoi at ei gilydd ar hyn o bryd er mwyn chwarae’r caneuon yn fyw.
Dyma ‘Yr 11eg Diwrnod’: