Sengl Newydd Carys Eleri

Mae’r gantores, actores a chomedïwraig, Carys Eleri, wedi rhyddhau sengl elusennol ddwy-ieithog ers dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf.

‘Go Tell The Bees / Dod Nôl at Fy Nghoed’ ydy enw’r trac newydd sydd wedi’i hysgrifennu a pherfformio gan Carys, ac wedi ei chyd-ysgrifennu a’i chynhyrchu gan Branwen Munn.

Bydd y gân yn gyfarwydd i rai efallai gan iddi ymddangos yng nghynhyrchiad digidol diweddar National Theatre Wales, sef ‘Go Tell the Bees Procession’.

Mae hanes personol i’r sengl newydd oherwydd cafodd Carys ei hysbrydoli i ddechrau ysgrifennu’r gân wrth geisio dygymod â’r galar am ei thad a fu farw’n sydyn yn 2018.

Roedd Carys ar y pryd i fyny yng Nghaeredin yn perfformio ei sioe un fenyw, ‘Lovecraft’, yn yr ŵyl ffrinj.

Roedd y gân yn ffitio’r berffaith i’r sioe National Theatre Wales oedd yn dathlu heuldro’r haf.

Carys oedd yn chwarae’r brif ran yn y sioe, sef Olwen, duwies yr haul, ac fe gafodd y cyfle i ysgrifennu arno hefyd. Rhoddodd hyn y cyfle iddi orffen ysgrifennu’r gân o hirbell gyda Branwen.

Maint Cymru

Mae’r sengl yn cael ei rhyddhau nawr er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â newidiadau yn yr hinsawdd trwy elusen Size of Wales – Maint Cymru.

Bwriad yr elusen goedd warchod coedwigoedd glaw sydd yr un maint â Chymru. Cyrhaeddwyd y nod yma yn 2013 ac erbyn hyn mae’r Elusen eisiau gwarchod coedwigoedd glaw ddwywaith maint Cymru!

Eu prif fodd o godi ymwybyddiaeth am y newid yn yr hinsawdd yw trwy eu gwaith caled o fewn y system addysg yma. Roedd tad Carys – David – yn athro balch iawn oedd wrth ei fodd yn dysgu, ac felly mae’r dewis o’r elusen hwn yn bwysig ar sawl lefel.

Roedd 2019 yn flwyddyn brysur i Carys, a ffeindiodd y byddai’n talu sylw i’w hemosiynau wrth iddi ddod adre i gartref y teulu yn y Tymbl.

A phan sylweddolodd mai hi nawr oedd yn gyfrifol am ofalu am ardd ogoneddus ei thad – fe lenwodd ei chalon a llawenydd, am fod y weithred honno yn dod a’i thad nôl yn agos ati, gan gynnig heddwch iddi. Roedd y ddau wrth eu bodd yng nghanol natur ac yn rhannu’r un consyrn am yr amgylchedd.

Gofalu am natur

Ma’r dywediad Cymraeg ‘Dod nôl at fy Nghoed’ wedi taro Carys mewn sawl ffordd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae coed ei thad wedi ei helpu wrth ymdopi gyda’i hiraeth a’i phoen, ond erbyn hyn ma natur a’r coed angen i ni eu helpu wedi i’r ddynol ryw achosi gymaint o ddifrod.

Mae’r gân hiraethus yn arddangos llais pwerus Carys ar ei orau, ac yn portreadu pwysigrwydd rôl dynoliaeth i ofalu am natur – a’r gwenyn. Heb y gwenyn – fydd y byd fel y mae yn diflannu.

Mae Carys wedi cadw’n brysur yn ystod cyfnod y cloi. Yn ogystal â chymryd rhan yng nghynhyrchiad digidol NTW mae hefyd wedi rhyddhau’r sengl ddwbl ‘Fat ‘n’ Clean’ / ‘Beyond the Fence’ ddechrau mis Mai.

Hoffai Carys ddiolch o galon i bob un wnaeth gytuno i adael i’w gwaith celf i barhau drwy’r gân bersonol yma, ac i NTW am y cyfle sydd i’w gofio. Mae’n gobeithio rhyddhau EP erbyn diwedd y flwyddyn a fydd yn archwilio ei meddyliau a’i theimladau o alar trwy gasgliad o ganeuon ingol a phwerus.