Sengl newydd Dan Amor allan heddiw

Mae’r cerddor o Gwm Penmachno, Dan Amor, yn rhyddhau ei sengl newydd heddiw, 15 Mai.

‘Is This Reality?’ ydy enw’r sengl newydd sy’n cael ei rhyddhau ar label Dan ei hun, sef Recordiau Cae Gwyn.

Dyma fydd cynnyrch cyntaf Dan fel artist unigol ers rhyddhau ei albwm, ‘Afonydd a Drysau’ ym mis Ionawr 2019.

Recordiwyd ‘Is This Reality?’ gan Dan ym Mynydd Llandegai yn ystod Gwanwyn 2020, ac fe gafodd ei fastro gan Donal Whelan, Hafod Mastering.