Mae’r cerddorion electronig Endaf ac Eädyth yn cyd-weithio unwaith eto i ryddhau sengl newydd ar 18 Rhagfyr.
‘Mwy o Gariad’ ydy enw cywaith diweddaraf y ddeuawd, ac mae’n cael ei rhyddhau gan label High Grade Grooves.
Er gwaetha heriau 2020, mae’r ddau gerddor wedi cael blwyddyn brysur iawn gan gyd-weithio gyda nifer o artistiaid eraill.
Mae Endaf wedi cyd-weithio â Sera ac Ifan Pritchard, yn ogystal ag ail-gymysgu caneuon Endaf Emlyn yn ystod y flwyddyn.
Mae Eädyth wedi bod hyd yn oed yn fwy cynhyrchiol yn rhyddhau sengl gyda Shamoniks, ac EP gydag Izzy Rabey, yn ogystal â senglau unigol.
Ac nid dyma’r tro cyntaf i’r ddau gyd-weithio eleni – daethant ynghyd, gydag Ifan Dafydd, i recordio a rhyddhau’r sengl ‘Disgwyl’ nôl ym mis Chwefror. Trac a gafodd ei chwarae gan Sian Eleri ar BBC Radio 1 a Huw Stephens ar BBC Radio 6, yn ogystal ag ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.
Ar y sengl newydd mae llais Eädyth yn gweddu ymdeimlad Nu-Disco y trac, ac mae dylanwadau downtempo jazzy y ddeuawd i’w glywed yn glir drwy’r trac.