Bydd y gantores werin ifanc, Eve Goodman, yn rhyddhau ei sengl newydd, ynghyd â fideo ar 30 Hydref.
‘Pellter’ ydy enw trac newydd Eve, ac mae’n cael ei ryddhau’n ddigidol gan label Recordiau CEG.
Mae themâu’r gân yn cynnwys archwilio pellterau, y pellter a’r pontio rhwng gofod sy’n amhosib i’w lenwi.
Fe ysbrydolwyd y trac gan brofiad personol, ac mae’r adlewyrchiad personol yma’n cyfeirio at garu rhywun sy’n dioddef o salwch meddwl.
Mae’r gân yn canu i’r ffrindiau, teulu a gofalwyr sy’n adnabod y daith yma.
Dawnsio gyda’r cysgodion
Mae’r fideo i gyd-fynd â’r sengl newydd wedi’i ffilmio yn ystod machlud haul ac yng nghanol y clo mawr.
Yn y fideo mae Eve un dawnsio gyda’i chysgod er mwyn darganfod rhannau tywyll ein bodolaeth a thaflu golau ar yr adegau caled.
Ffilmiwyd y fideo pan oedd yr haul ar ei orau – yr adeg perffaith i ganiatáu i gysgod y gantores ddod allan i chwarae.
Eve Goodman ei hun sydd wedi recordio a chynhyrchu’r trac newydd, ac fe’i mastrwyd ar y cyd â Luke Evans,
Mae Eve yn gobeithio cynnwys y trac ar yr albwm mae’n gweithio arno ar hyn o bryd, albwm fydd yn darganfod amryw o deimladau o’r lleddf llon yn ôl y gantores.
“Ro’n i eisiau cychwyn y sgwrs am golli rhywun sydd yn methu caru ei hun a pha mor anodd yw dygymod â’r teimlad yna” meddai Eve.
“Collais i fy nhad i hunanladdiad ac rwy’n cario hyn gyda mi drwy’r amser. Dyma gân am y profiad tu hwnt o anodd yma.
“Fel fy nghysgod, bydd y galar o hyd yno, ond rwy’n dysgu sut i ddawnsio gyda’r cysgod a phrosesu’r teimlad drwy ffyrdd creadigol.”