Sengl newydd HMS Morris allan ddechrau Tachwedd

Mae HMS Morris wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau eu sengl nesaf ar ddydd Gwener 6 Tachwedd.

Enw’r sengl newydd ydy ‘Partypooper’ a bydd yn cael ei rhyddhau ar y llwyfannau digidol arferol gan label Bubblewap Records.

Dyma’r bedwaredd mewn cyfres o senglau i’w rhyddhau eleni gan y grŵp sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd.

Rhyddhawyd y gyntaf o’r rhain, ‘Babanod’ ar ddechrau mis Chwefror gyda ‘Poetry’ yn dilyn ym mis Ebrill, a’r sengl ddiweddaraf, ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’ yn cael ei rhyddhau fis yn ôl ar 16 Medi.

Wrth ddisgrifio tarddiad y gân newydd, eglura Heledd Watkins o’r grŵp fod y dylanwad yn dod o fan personol iawn.

“Mae’n ymateb i’r uchelfannau a’r iselderau o fod yn gerddor – neu unrhyw fath o fod dynol, mewn gwirionedd” meddai Heledd.

“Mae llawer iawn ohonom yn dygymod â ‘partypooper’ bach mewnol, creadur bach cas sydd yn aros tan ein bod ni’n teimlo’n hapus iawn cyn ein taro gydag amheuaeth a siom, yn ein gadael yn ddi-hyder cyn sgipio i ffwrdd yn hapus.

“Nid yw’r creadur yn ofn gwneud i chi deimlo’n waeth pan fyddwch chi’n isel chwaith – boed hynny’n ystod seibiant rhwng gigs, wrth i ti ddarllen adolygiad gwael o albym nes di dreulio’r flwyddyn ddiwethaf yn ei berffeithio neu pan ti’n gweld band newydd yn gwibio heibio tuag at ‘New Music Friday’, neu rhywle arall deniadol.

“Mae gennym ni gyd un. Rydym ni gyd yn ei ddygymod gydag o mewn ffyrdd gwahanol. Rhaid i mi ond gobeithio fod gan fy nghreadyr bach i ofn caneuon latin cyflym a chrio rhyfedd.”

Mae ‘Partypooper’ yn cynnwys cyfraniad gan westeion arbennig sef Owain Gruffudd a Gwyn Owen – dau aelod o Band Pres Llareggub.

Owain sy’n gyfrifol am y trefniant pres ar y gân hefyd. Mae Iestyn Jones, sydd hefyd yn y band Lewys, yn ymuno ar y drymiau.

Recordiwyd y trac yn stiwdio St Peter’s and Fitzamon yng Nghaerdydd a Stwidio Sain yn Llandwrog.

Bydd ‘Partypooper’ allan ar yr holl lwyfannau digidol arferol ar 6 Tachwedd.

Dyma’r sengl ddiwethaf, ‘Myfyrwyr Ryngwladol’: