Fel y gwyddoch, rydan ni rili yn hoffi HMS Morris yma yn Y Selar, felly mae clywed fod sengl newydd sbon ar fin dod allan ganddyn nhw wedi rhoi gwên fawr ar yr wyneb 😀
Enw’r trac newydd gan y triawd ydy ‘Babanod’, a bydd yn cael ei ryddhau gan label recordiau Bubblewrap Collective ar 7 Chwefror.
Roedd diweddglo 2019 yn un hynod gyffrous i HMS wrth iddynt deithio i Siapan yn yr hydref, a chael eu henwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.
Cyfres a sioe theatr
Mae rhyddhau ‘Babanod’ yn ddechrau da i’r ddegawd newydd iddyn nhw, ond y newyddion gwych pellach ydy mai dyma’r gyntaf mewn cyfres o senglau mae’r band yn bwriadu rhyddhau yn ystod 2020.
Yn ddifyr iawn hefyd, maent yn bwriadu treulio’r flwyddyn yn datblygu sioe theatr fydd yn barod i’w pherfformio yn ystod 2021.
Yn ôl HMS Morris, yr ysgogiad ar gyfer cyfansoddi ‘Babanod’ oedd y foment anghyfforddus ym mhriodas dy ffrind pan mae rhywun yn rhoi ei braich o amgylch dy ysgwydd ac yn dweud: “ti fydd nesa”.
“Yn y fath sefyllfa, â chyplau priod a phlant ifanc ymhobman, sut fedri di ddatgan dy hawl i fywyd bras-anghonfensiynol, rhywbeth gwahanol i symud yn uniongyrchol o raddio i briodi i atgenhedlu, heb swnio fel sholen go iawn?”
“Gwell fyddai gwenu, storio’r teimlad, a’i arllwys mewn i gân pan ti’n cyrraedd adref!”
Dyna’r neges yn y gân yn ôl y grŵp.