Sengl newydd Jaffro

Mae’r cerddor o Sir Gâr, Jaffro, wedi rhyddhau sengl newydd fel tamaid i aros pryd nes ei albwm fydd allan yn y flwyddyn newydd.

Enw’r sengl newydd ydy ‘The Brief’ ac mae’n dilyn y sengl ‘Spinning Around’ a ryddhawyd rai wythnosau nôl ganddo.

Prosiect cerddorol Will Pritchard ydy Jaffro a bydd yr albwm, sy’n dwyn yr enw ‘Ffrog Las’ allan yn fuan yn y flwyddyn newydd.