Bydd y grŵp newydd o ardal Dolgellau, Josgins, yn rhyddhau eu sengl newydd ar 11 Rhagfyr.
‘Poethi’ ydy enw’r sengl newydd ac mae’r gân wedi’i hysbrydoli gan gymeriad adnabyddus, a lled enwog bellach, ‘Bootleger’, sef y cefnogwr tîm pêl-droed Wrecsam sydd wedi dod yn seren ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yn ogystal â hyn dywed y grŵp fod y gân yn ddathliad o’r holl egni da sydd wedi, ac yn dal i gael ei greu, gan dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, a’r gêm yng Nghymru’n gyffredinol.
Mae’r sengl hefyd yn cynnwys fersiwn Saesneg o’r trac, ‘Tasty’, a bydd y ddwy gân ar gael i’w ffrydio a lawr lwytho o’r holl lwyfannau digidol arferol.
Josgins ydy prosiect diweddaraf y cerddor Iestyn Jones, sydd wedi bod yn aelod o’r grwpiau Rebownder ac Y Sybs yn y gorffennol. Rhyddhawyd sengl gyntaf Josgins, sef ‘Locdown yng Nghymru’ ym mis Mehefin eleni.
“Mae’r sengl newydd yn wrthdrawiad perffaith o draddodiadau hen a newydd” meddai Iestyn Jones.
“Mae ‘Poethi’ yn gri frwydr dros bêl-droed Cymru a phêl-droed ledled y byd. Fe’i hysbrydolwyd gan yr enwog ‘Bootlegger’ o Wrecsam ac rydym yn gobeithio y gall y gân fod yn beledr o olau i’n helpu trwy fisoedd hir y gaeaf.”
Recordiwyd ‘Poethi’ gan Gwyn Jones ac fe’i cynhyrchwyd gan Ed Holden.
Yn ogystal â Iestyn Jones, yr artistiaid sy’n chwarae ar y sengl ydy Dafydd Rhys (Ceffylau Lliwgar), Gruff Meredith (MC Mabon), David Taylor, Ed Holden (Mr Phormula) a Gwyn Jones (Maffia Mr Huws).
Bydd y sengl yn cael ei rhyddhau ar label recordiau Tarw Du ar 11 Rhagfyr.
Dyma fideo sengl gyntaf y grŵp: