Mae’r gantores Lisa Pedrick wedi rhyddhau ei sengl newydd ddydd Gwener diwethaf, 28 Awst, ar label Recordiau Rumble.
‘Dim ond Dieithryn’ ydy enw’r trac, ac mae’n dynodi cam diweddaraf comeback o fath gan y gantores o Waun-Cae-Gurwen.
Daeth Lisa i’r amlwg gyntaf ar gyfres deledu talent S4C, ‘Wawffactor’, gan ddod yn fuddugol yn y gyfres gyntaf yn 2004. O dipyn i beth, y person oedd yn ail y flwyddyn honno oedd Aimée Duffy, a aeth ymlaen wrth gwrs i gael llwyddiant rhyngwladol dan yr enw Duffy.
Ers hynny mae Lisa wedi rhyddhau EP ac albwm o’r enw ‘Dyma’r Amser’ yn 2008 oedd yn cynnwys traciau wedi’u hysgrifennu ganddi hi a cherddorion talentog eraill gan gynnwys Henry Priestman, Steve Balsamo a Cerys Matthews.
Un trac ganddi sydd wedi cael ei chwarae’n rheolaidd ar donfeddi Radio Cymru hyd heddiw ydy ei fersiwn o’r glasur gan Gwacamoli, ‘Cwmwl 9’.
Cyfres o senglau
Wedi cyfnod tawelach, mae Lisa wedi cael rhywfaint o adfywiad yn ystod 2020 gan ryddhau tair sengl hyd yma.
Rhyddhawyd y gyntaf, ‘Ti Yw Fy Seren’ ym mis Ebrill, gydag ‘Icarus’ yn dilyn ym mis Gorffennaf.
Mae Lisa wedi cyd-weithio â’r band PERI i ysgrifennu ‘Dim ond Dieithryn’, ac mae’r cerddorion i gyd yn ymddangos ar y recordiad.
Penllanw’r gyfres o senglau fydd EP newydd gan Lisa, a gallwn ddisgwyl i hwnnw gael ei ryddhau yn yr hydref.