Mae Mared wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 19 Mehefin.
‘Over Again’ ydy enw’r trac newydd ac mae’n dilyn dwy sengl flaenorol ganddi sef ‘Y Reddf’ a ‘Dal ar y Teimlad’.
Bydd y senglau i gyd yn cael eu cynnwys ar albwm cyntaf Mared sydd i’w ryddhau gan label Recordiau I KA CHING cyn diwedd yr haf.
Mared ydy’r gantores Mared Williams, ddaeth i’r amlwg gyntaf fel aelod o’r grŵp o Ddyffryn Clwyd, Y Trŵbz.
Roedd y gantores o Lanefydd hefyd yn rhan o gast sioe West End ‘Les Mis’ yn y Theatr Sondheim, Llundain ddechrau’r flwyddyn eleni.
Yn ôl y label mae ‘Over Again’ yn gip hiraethus ar leoedd a ffrindiau o’r gorffennol, wrth geisio eu gwneud yn bresennol yn y meddwl eto.
Mae’r gân yn gosod teimladau cyfarwydd ochr yn ochr a’r profiad o dyfu a phrifio mewn lleoedd oddi cartref, a symud ymlaen mewn bywyd.
Derbyniad da
Cafodd ei senglau cyntaf dderbyniad arbennig ar raglenni Adam Walton a Bethan Elfyn ar BBC Radio Wales, yn ogystal â denu sesiynau byw a chyfweliadau ar sioeau Georgia Ruth a Huw Stephens ar BBC Radio Cymru.
Ym mis Tachwedd, gwahoddwyd Mared i berfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC mewn cyngerdd a ddarlledwyd yn fyw i ddathlu 50 mlynedd ers dechrau label Recordiau Sain.
Cydweithiodd Mared hefyd ar y traciau ‘Fear in the Night’ a ‘Something Real’ gyda’r ddeuawd electronig amlwg Denton Thrift, gan gyrraedd dros 700,000 o ffrydiau ar Spotify.
Ymhlith ei dylanwadau y mae Laura Mvula, Lucy Rose, Celeste, Madison Cunningham, Georgia Ruth, Lianne La Havas a Faye Webster.