Sengl newydd Olamoma

Mae’r grŵp pop seicadelig gwych o Ddyffryn Conwy, Omaloma, wedi rhyddhau eu sengl newydd heddiw, 28 Chwefror.

‘Walk The Dog’ ydy enw’r trac diweddaraf i ymddangos gan y prosiect sy’n cael ei arwain gan George Amor gyda chymorth y cynhyrchydd amryddawn Llŷr Pari a label Recordiau Cae Gwyn fydd yn rhyddhau.

Aelodaeth llawn Omaloma ydy George Amor (llais, synths), Llŷr Pari (drymiau, sample pad), Daf Owain (bas), Alex Morrison (synths), Gruff ab Arwel (gitâr) – cymysgedd o gyn aelodau’r grwpiau dyfeisgar Sen Segur, Jen Jeniro ac Eitha Tal Ffranco.

Sŵn synth seicadelig

Mae’r sengl newydd yn llifo o sŵn seicadelig hafaidd hamddenol cyfarwydd Omaloma.

Ers ffurfio yn Nyffryn Conwy yn 2015, mae pop synth seicadelig Omaloma wedi creu argraff yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Cafodd y sengl ei recordio a’i chynhyrchu gan Llŷr Pari yn Stiwdio Glan Llyn, Melin y Coed.

Wrth i’r sengl gael ei rhyddhau heddiw, mae’r grŵp hefyd wedi cyhoeddi bydd eu halbwm cyntaf, Swish’ yn cael ei ryddhau ar 3 Ebrill. Newyddion da yn wir!