Sengl newydd SYBS ar y ffordd

Bydd y grŵp ifanc o Gaerdydd, SYBS, yn rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar 31 Gorffennaf.

‘Anwybodaeth’ ydy enw trydedd sengl y pedwarawd a gipiodd deitl Brwydr y Bandiau BBC Radio Cymru a Maes B yn Eisteddfod Caerdydd 2018.

Mae’n dilyn y senglau ‘Paid Gofyn Pam’ a ryddhawyd llynedd a ‘Cwyr’ a ryddhawyd ym mis Ebrill eleni.

Recordiau Libertino sy’n gyfrifol am ryddhau cynnyrch y grŵp, ac yn ôl y label mae’r trac newydd yn gorlifo gyda llawenydd pur – yn gymysgedd o Sonic Youth, Talking Heads a’r Pixies wedi dod at ei gilydd ar gyfer yr apocalyps!

Trobwynt sain SYBS

Yn ôl canwr, gitarydd a chyfansoddwr SYBS, Osian Llŷr, mae’r gân yn dynodi shifft yn sŵn SYBS.

“Mae gân hon bendant yn drobwyt yn sain y band” meddai Osian.

“…gan fy mod wedi sylweddoli nad oes rhaid i ti greu cân pync ddifrifol er mwyn iddo gael geiriau gwleidyddol/sylwebaeth gymdeithasol, ac weithiau mae creu rhywbeth llawen ti’n gallu dawnsio iddo yn wyneb popeth sy’n digwydd yn y byd yn fwy o ddatganiad.”

Mae’r sengl allan ar ddydd Gwener 31 Gorffennaf ar yr holl lwyfannau digidol arferol.