Mae’r siŵr mai’r grŵp sydd â’r enw mwyaf addas ar gyfer y cyfnod rhyfedd yma rydan ni ynddo o ganlyniad i’r argyfwng Coronavirus ydy Ynys, ac yn briodol iawn mae sengl newydd ar y ffordd ganddynt ddiwedd yr wythnos.
Ynys ydy prosiect diweddaraf Dylan Huws, gynt o Radio Luxebourg a Race Horses, ac enw ei sengl diweddaraf ydy ‘Aros am Byth’.
Bydd y trac allan yn swyddogol ar label Recordiau Libertino ddydd Gwener yma, 15 Mai.
Yn ôl y label mae ‘Aros am Byth’ yn gyfuniad o synths disgo Eidalaidd y 1970au a harmonïau pop y 1990au.
Mae’n drac llawn hiraeth gobeithiol, tristwch a swyn hudolus – mae dyfodol, presennol a gorffennol cerddoriaeth yn dod at ei gilydd yma mewn cân bop gain.
“Y naws oeddwn i eisiau oedd Jeff Lynne yn cymryd drosodd stiwdio ar ôl bod mewn parti gwrando ar Tame Impala” meddai Dylan am y trac newydd.
Mae’r sengl ddiweddaraf yn dilyn dwy sengl flaenorol a ryddhawyd gan Ynys yn ystod 2019 sef ‘Caneuon’ ym mis Ebrill, a ‘Mae’n Hawdd’ a ddaeth i’r golwg ym mis Gorffennaf.
Cafodd y trac ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Radio Cymru Lisa Gwilym wythnos diwethaf.
Dyma ‘Aros am Byth’: