Sengl Ritual Cloak

Mae sengl newydd y grŵp Ritual Cloak allan heddiw, 25 Tachwedd.

‘I Lawr Ymhlith y Tywyllwch’ ydy enw cynnyrch diweddaraf y ddeuawd ac mae’r sengl yn cael ei ryddhau ar label Bubblewrap Records.

Dyma gynnyrch cyntaf Ritual Cloak ers rhyddhau’r albwm sy’n rhannu enw’r grŵp yn 2019.

Cyfansoddwyd y gân yn wreiddiol ar gyfer y prosiect cymunedol, ‘The Girl Who Wouldn’t Give Up’, ac mae’r argyfwng hinsawdd a’r risg i fyd natur yn themâu craidd i’r gân.

Mae’r gân yn adlewyrchu chwedl hynafol Afanc, creadur sy’n boddi a dinistrio’r tir. Neges y gân ydy pwysleisio’r ffaith ei bod yn hollbwysig i gymunedau dynnu ynghyd i rwystro’r dirywiad amgylcheddol sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Grŵp dau aelod o Gaerdydd ydy Ritual Cloak  sef Daniel Barnett, gynt o’r grŵp Samoans, a’r drymiwr a chynhyrchydd Andrew Saunders.

Cyfarfu’r ddau yn 2013 ar ôl i Daniel ateb hysbyseb oedd yn chwilio am gitarydd i ymuno â band y gantores Jemma Roper. Daeth y ddau’n ffrindiau’n syth pan ddaeth i’r amlwg eu bod yn rhannu’r un cariad tuag at arbrofi gyda cherddoriaeth electronig.

Pan chwalodd Samoans yn 2018, dechreuodd y ddau arbrofi gyda haenau offerynnol a soundscapes piano, a datblygodd hynny i’r albwm llwyddiannus ‘Everyone is Hungover So I Walked The Mountain Alone’ yn 2019.

Mae’r sengl newydd yn dilyn yr un templed, ac yn ail ymweld â hyd a lledrith sonig eu halbwm cyntaf.

Mae’r sengl yn damaid i aros pryd nes eu halbwm nesaf fydd allan yn 2021.