Set Trŵbz er budd Tarian Cymru

Mae Morgan a Mared o’r grŵp Trŵbz wedi perfformio set ‘byw’ ar YouTube er mwyn codi arian at elusen Tarian Cymru.

Mae Tarian Cymru’n elusen sy’n darparu offer gwarchodol personol (PPE) i weithwyr iechyd yng Nghymru ac mae nifer o gerddorion wedi bod yn cefnogi’r achos dros yr wythnosau diwethaf.

Darlledwyd y set byw gan y ddau nos Iau diwethaf, ond mae modd gwylio ar sianel YouTube Morgan Elwy nawr.