Split EP Carwyn Ellis

Mae’r cerddor amryddawn, Carwyn Ellis, wedi rhyddhau dau drac ar  ‘split EP’ newydd gan ei label Banana and Louie Records.

Bwriad yr EP ydy codi arian at gynnig cymorth gyda’r argyfwng Coronavirus.

Mae’r EP yn cynnwys un trac unigol gan Carwyn, sef ‘Cardigan Bay’, yn ogystal â thrac gan ei fand, Colorama, sef ‘Apocalypse Blues’.

Mae dau drac gan y cerddor Kelley Stoltz ar yr EP hefyd.

Mae modd archebu’r EP ar Bandcamp nawr.