Tafwyl 2020: Ai’r digidol yw’r dyfodol?

Tegwen Bruce-Deans sy’n trafod y profiad o wylio Tafwyl digidol wythnos diwethaf…

Hirddydd haf, canol dydd. Mae’r haul yn grasboeth yn barod, ac yn dechrau llosgi’r miloedd o bobl yn casglu ar hyd y strydoedd gyda’r gobaith o gyrraedd tu mewn i furiau Castell Caerdydd, sy’n barod i fyrstio.

Ac er eleni nid hirddydd haf arferol mohoni, ac ni stwffiwyd y castell ag wynebau o bob cefndir a chwr, llenwyd y gwacter mewn ffordd amgen: cyfaredd rhai o gerddorion amlycaf Cymru.

Penwythnos diwethaf, cynhaliodd Menter Caerdydd yr ŵyl gyntaf ers cychwyn pandemig Covid-19 i ffrydio’n fyw o safle arferol yr ŵyl. Cafodd Tafwyl 2020 ei gynnal ar blatfform digidol AM, prosiect yr hyrwyddwyr celfyddydol PYST a lansiwyd yn gynharach eleni. Gyda rhyngwyneb syml a hygyrch a lwyddodd i ddenu gwylwyr hyd yn oed o bellterau’r Iseldiroedd a Japan, tybed a fydd mwy o wyliau sydd wedi’u canslo dros yr haf yn troi at y llwyfan hwn i gynnal rhywbeth tebyg?

Darparu cyfleoedd

Er ei bod hi’n amlwg na fydd gwyliau digidol yn disodli’r profiad go iawn, roedd nifer o fanteision yn codi o wylio’r llwyfan o’r ardd gefn. Daeth un o’r rhain i’r amlwg wrth i’r ŵyl agor gyda set gan Hana. Mae’r artist ifanc lleol wedi bod wrthi’n creu delwedd o’i hun dros y blynyddoedd diwethaf wrth aeddfedu ac ymgyfarwyddo â’i harddull poppy cyfoes. Yn enwedig yn achos gwyliau mor boblogaidd â Tafwyl, dydy’r artistiaid sy’n agor yr ŵyl ddim fel arfer yn llwyddo i ddenu cymaint o dorf gan fod pobl yn dal i gyrraedd y safle. Ond wrth i sicrwydd a hyder alawon ffres Hana ein cyrraedd trwy’r sgrin, yn ddi-os mae’r cerddor ifanc wedi gallu cyrraedd clustiau mwy o wrandawyr awyddus ac adeiladu amrywiaeth ei chynulleidfa sy’n prysur ehangu.

O feddwl bod cyfyngiadau teithio yn parhau yng Nghymru, rhaid cymeradwyo nid yn unig y nifer o artistiaid roedd trefnwyr Tafwyl wedi llwyfannu, ond hefyd yr ansawdd a’r amrywiaeth – tipyn o gamp o ystyried anawsterau’r sefyllfa. Efallai bod hyn ond yn atgyfnerthu’r ddadl barhaus bod yna or-bwyslais ar y diwydiant cerddorol yn y De, gan adael i sin y Gogledd i deimlo ar ei hôl hi. Fodd bynnag, mae’r ŵyl yn bendant wedi ymateb i’r galw diweddaf am gynrychiolaeth ehangach o artistiaid benywaidd ar brif lwyfannau’r wlad. Braf oedd gweld Casi, er enghraifft, yn brolio’i datblygiad fel artist gyda set fer a oedd yn cyfuno rhai o’i chaneuon hŷn gyda’i thraciau diweddaraf. Perfformwraig ydy Casi heb os, ac eto doedd perfformio i gastell wag yn amlwg ddim i’w weld yn broblem iddi. Mae naws breuddwydiol i’w llais ysgafn unigryw, ac wrth iddi gau ei llygaid wrth ganu ei halawon swynol cawn y synnwyr ei bod hi’n dianc i fyd arall yn ei phen, ac yn croesawu’r gwrandäwr i’w dilyn i’r ddihangfa hon.

Edrych yn naturiol

Merched eraill a serennodd yn ystod eu set Tafwyl oedd dau draean o Adwaith. Mae steil edgy y band yn rhan ganolog o’u delwedd fel artistiaid, felly roedd hi’n ddiddorol i weld camp artistig y gwaith camera yn gwneud y mwyaf o hynny yn ystod eu set. Mae setiau acwstig gan amlaf gyda deinameg ac awyrgylch glos rhwng y gynulleidfa a’r band, bron fel petaent yn rhannu cyfrinachau. Heb y gallu i fod yn agos na rhannu’r profiad gyda’r gynulleidfa, llwyddodd y tîm camera i wneud y mwyaf o hen bensaernïaeth y castell ac addurniadau blodeuog cyfoes Efa Lois i wneud i’r amodau ymbellhau cymdeithasol edrych yn naturiol – elfen a oedd hefyd yn nodweddiadol o set glasurol a chysurus Gareth Bonello yng ngorthwr y castell.

Roedd hyn oll yn llawer mwy deniadol i’w wylio na’r ffrydiau byw eraill sydd wedi bod yn digwydd yn ystod y cyfnod clo, sydd wedi bod yn dibynnu ar saethiadau unigol ac ansawdd camerâu’r artistiaid yn eu cartrefi. Mae’r ffaith bod holl berfformiadau Tafwyl ar gael i’w ffrydio ar alw oddi ar blatfform AM hefyd yn golygu bod yr ymdrechion hyn bellach yn ychwanegiadau gwerthfawr i’r archif cerddorol Cymraeg, sy’n prysur ehangu ar hyn o bryd diolch i fentrau Lŵp a Churadur. Mewn cyfnod mor heriol i’r sector celfyddydau, mae’n braf i weld Cymru’n cymryd y cam i fod yn gefn i artistiaid a’u cynorthwyo i greu cynnyrch o safon yn ystod amgylchiadau cyfyngedig.

Roedd Mellt hefyd yn fand oedd i’w gweld yn elwa o’r cyfle roedd Tafwyl yn cynnig iddynt yn ystod y cloi mawr. Er eu bod yn byw gyda’i gilydd ac eisoes wedi perfformio fel band yn ystod y cyfnod yma ar blatfformau eraill megis ‘Maes B o Bell’, roedd hi’n amlwg fod y cyfle i gamu ar lwyfan wedi rhoi hwb mawr i frwdfrydedd y band nad oedd bosib tanio wrth berfformio o’r ystafell fyw. Gellir hyd yn oed fynd gam ymhellach a dweud mai dyma oedd un o berfformiadau gorau Mellt ers tro, er gwaethaf yr amgylchiadau. Wedi i’r band chwarae cymaint o gigs yn dilyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, roedd teimlad over-practiced bron ym mherfformiadau’n band wrth iddynt ymgyfarwyddo’n anochel gyda’r setiau byw. Ond wrth i Tafwyl gyflwyno cyd-destun newydd i berfformiad’r grŵp wedi saib yn eu calendr gigio, roedd Mellt i’w gweld wedi ail-afael ar ddeinameg amrwd sŵn byw’r band.

Y cyfarwydd a’r gwahanol

Er ei bod hi’n hyfryd gweld ffresni’n ffynnu o lwyfan yr ŵyl, roedd hi hefyd yn gysurus i glywed ambell i artist fel Rhys Gwynfor, Mei Gwynedd ac Al Lewis yn dal i geisio cynnal rhyw fath o banter gyda’r gynulleidfa rithiol a rhwng aelodau’r band, er iddynt fod yn chwarae ymhellach i ffwrdd o’i gilydd na’r arfer. Wrth wylio hyn oll, bron nad oedd hi’n amhosib dychmygu’r plant ifanc yn gwneud eu cartwheels blynyddol o flaen y llwyfan perfformio, a’r rhieni’n brysio i amddiffyn eu peintiau gor-ddrud rhag eu helynt.

A thra bod rhai artistiaid yn ceisio ennyn rhywfaint o normalrwydd mewn amgylchiadau eithriadol, roedd eraill yn manteisio ar y cyfle i geisio rhoi persbectif gwahanol i’r gynulleidfa o’u cerddoriaeth. Mae gan arddulliau amgen HMS Morris ac Alun Gaffey ill dau haenau niferus o synau, effeithiau a golygiadau i greu cyfanweithiau sonig, felly roedd hi’n ddiddorol i weld yr ymdriniaethau cyferbyniol o’u perfformiadau. Mae gwylio HMS Morris yn fyw yn brofiad yn ei hun; wrth ymgolli yn yr hud o wylio’r deuawd yn adeiladu a pherffeithio haenau’r traciau, mae’n taro rhywun mai dyma ydy’r math o gyfoeth y byddem yn gweld ei eisiau heb dymor o gigs byw dros yr haf. Fodd bynnag, penderfynodd Alun Gaffey i gymryd trywydd sonig gwahanol i HMS Morris er tebygrwydd eu crefft wreiddiol, gan berfformio un o’i draciau mwyaf poblogaidd, ‘Yr 11eg Diwrnod’, yn gwbl foel ac acwstig. Roedd yr ymdriniaeth hon yn datgelu haenau cudd i ganeuon Gaffey sydd efallai’n cael eu colli yn y gwrandawiad llethol o’i albwm diweddaraf, Llyfrau Hanes.

Cam nesaf

Gyda phob gobaith y bydd gwyliau’r haf yn dychwelyd i normalrwydd erbyn blwyddyn nesaf, mae disgwyl y bydd muriau’r castell yn ôl i fod yn barod i fyrstio ar gyfer Tafwyl 2021. Ond mae llwyddiant yr ŵyl ddigidol yn codi cwestiynau ynghylch y cyfle i ffrydio mwy o wyliau Cymraeg yn y dyfodol, yn enwedig wrth i boblogrwydd Tafwyl dechrau achosi problemau iechyd a diogelwch gyda gormod o bobl yn ceisio cael mynediad. Mae hyn yn digwydd yn barod gyda gwyliau cerddorol Saesneg megis Glastonbury, felly pam ddim rhoi’r un cyfle i leisiau artistiaid Cymraeg gyrraedd tu hwnt i furiau’r castell pob blwyddyn?

Beth bynnag a ddaw o lwyddiant Tafwyl Digidol 2020, mae’n sicr bod Cymry balch dros y wlad a’r byd i gyd o weld penderfyniad sefydliadau a’r llywodraeth i sicrhau bod y cyhoedd yn dal i gael cerddoriaeth i godi calon mewn cyfnod heriol, hyd yn oed os oedd hynny ar sgrin yn ein gerddi cefn y flwyddyn hon.

Geiriau: Tegwen Bruce-Deans