Tafwyl 2020 i ddigwydd yn ddigidol

Cafwyd cyhoeddiad ddydd Gwener y gallwn ni ddisgwyl gweld un o wyliau cerddoriaeth mwyaf Cymru’n digwydd yn ddigidol eleni.

Bydd Gŵyl Tafwyl 2020 yn digwydd yn ddigidol ar 20 Mehefin, gyda swp o artistiaid cerddorol yn ffrydio perfformiadau byw yn ystod y dydd, ynghyd â gweithgareddau amrywiol eraill.

Tafwyl ydy dathliad blynyddol Caerdydd o gelfyddydau a diwylliant Cymreig, ond fel cymaint o wyliau eraill eleni, ni fydd modd ei drefnu ar ei ffurf arferol oherwydd COVID-19.

Yn hytrach na hynnybydd rhaglen uchelgeisiol o ddigwyddiadau’n cael eu ffrydio’n fyw ar y dydd, gan gynnig dihangfa groesawgar o’r sefyllfa bresennol.

Bydd yr ŵyl yn parhau i gynnig cyfuniad cyffrous o gerddoriaeth fyw, llenyddiaeth, trafodaethau a gweithgareddau i blant.

Bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio’n fwy trwy’r dydd ar wefan AM, a’r artistiaid cerddorol sy’n perfformio ydy Al Lewis, Adwaith, HMS Morris, Casi, Alun Gaffey, Mellt, Hana, Mei Gwynedd, Gareth Bonello a Rhys Gwynfor.

Yr hyn sy’n gwneud yr ŵyl bach yn wahanol i’r gigs rhithiol eraill rydan ni wedi gweld yn ystod y cloi mawr ydy bod y perfformiadau i gyd yn cael eu darlledu’n fyw o’r un safle, sef cartref Tafwyl yng Nghastell Caerdydd. Yn ôl y trefnwyr, dyma un o wyliau cyntaf y DU i ffrydio o leoliad arferol yr ŵyl.